MANYLION.
  • Lleoliad: Crosskeys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb : Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : £23.59 i £46.42 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hourly Paid Lecturer - Electrical/Electronic

Coleg Gwent

Cyflog: £23.59 i £46.42 yr awr

Hourly Paid Lecturer - Electrical/Electronic
Swydd ddisgrifiad
18.5 awr yr wythnos

Cyfnod penodol tan 30.06.27

Rydym yn chwilio am ddarlithydd uchel ei gymhelliant i ymuno ag Adran Beirianneg campws Crosskeys sydd â'r gallu i ysgogi, ysbrydoli, a datblygu setiau sgiliau technegol a pheirianneg ein dysgwyr.

Byddwch chi'n meddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i gyflwyno cwricwlwm Trydanol/Electronig i amrywiaeth o ddysgwyr o Lefel 1 i Lefel 5. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau arbenigol mewn un o'r meysydd canlynol: PLC, analog a digidol, rheoleiddio ac offeryniaeth neu storio a dosbarthu ynni.

Bydd yn rhaid eich bod chi'n meddu ar y cymwysterau priodol hyd at lefel radd mewn disgyblaeth beirianneg addas. Bydd gofyniad i chi ymgymryd ag ystod o weithgareddau dysgu, addysgu ac asesu, meddu ar sgiliau trefnu ardderchog, a bod yn weithiwr tîm rhagweithiol.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
  • Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:

  • Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
  • Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.

Dyddiad Cau: 18/11/26

Dyddiad Cyfweliad: I gael ei gadarnhau