MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2,838)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth)

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2,838)

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002790 Dyddiad postio 06/11/2026 Dyddiad cau ceisiadau 20/11/2026 Cyflog Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2,838) Oriau gwaith 13 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil Teacher Complex Needs Class gwaunmeisgyn.docx

Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth)

Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gymuned Gwaunmeisgyn

Swydd Rhan Amser; Dau ddiwrnod yr wythnos

Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2,838)

Dyddiad Dechrau: 01/01/27

Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 8 disgybl o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a bydd yn cael ei staffio gan athro a Chynorthwyydd Cymorth Dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Canolfan Menter Y Cymoedd, Parc Hen Lof'r Navigation, Abercynon, CF45 4SN neu ffoniwch 01443 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 20/11/26

Cyfweliad: I'w gadarnhau

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.