MANYLION.
  • Lleoliad: Across All Campuses,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hwylusydd Hyb Llwyddiant 

Coleg Penybont
Hwylusydd Hyb Llwyddiant

Graddfa Gyflog 5, pwyntiau 25-28: £30,165 - £33,119 y flwyddyn pro rata

(bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau i'w gweithio)

Cyfnod Penodol - 31ain Awst 2027 (Cyfnod Mamolaeth)

Llawn Amser - Amser Tymor yn Unig

Mae gennym ni gyfle cyffrous yng Ngholeg Penybont i Hwylusydd Hyb Llwyddiant brwdfrydig ymuno â'n timau dysgu ac addysgu angerddol. Byddwch yn creu amgylchedd ysgogol a chroesawgar i ddysgwyr yn eich Hyb Llwyddiant dynodedig. Byddwch yn helpu dysgwyr i gymryd rhan yn gadarnhaol yn holl weithgareddau'r hyb llwyddiant ac yn darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr yn enwedig ar gyfer llythrennedd, rhifedd a threfnu llwyth gwaith.

Bydd Hwyluswyr yr Hyb Llwyddiant yn ganolog i ddarparu profiad cadarnhaol drwy groesawu dysgwyr i'r gofodau a'u hannog i gymryd rhan weithredol ym mhob tasg, hwyluso trafodaethau grŵp a chefnogi gweithgareddau taith y dysgwr lle bo angen drwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwch yn darparu cymorth grŵp neu unigol wrth fonitro cynnydd dysgwyr yn enwedig o ran datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a threfnu llwyth gwaith er mwyn bodloni terfynau amser. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn gallu cefnogi ac ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.