MANYLION.
  • Lleoliad: Nantymoel Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes - Ysgol Gynradd Nantymoel (Cyfnod mamolaeth)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Dros Dro

Cyfnod mamolaeth am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Nantymoel yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant, creadigol ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol, i gyflenwi yn ystod absenoldeb mamolaeth yn ein dosbarth derbyn.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy'n deall sut mae plant ifanc yn dysgu ac sy'n ymrwymedig i adeiladu ar eu profiadau cynnar, gan gefnogi eu datblygiad a'u cynnydd parhaus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn creu profiadau dysgu ysbrydoledig sy'n meithrin chwilfrydedd, annibyniaeth, creadigrwydd ac ymdeimlad o berthyn.

Mae ein dull Froebel a'n hethos sy'n ystyriol o drawma wedi'u hymgorffori ar draws ein hysgol. Rydym yn gwerthfawrogi chwarae, perthnasoedd cynnes sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, cysylltiadau â natur, a dysgu pwrpasol drwy brofiadau ymarferol ac ystyrlon. Mae ein hamgylcheddau dysgu yn annog plant i archwilio, ymchwilio a gweithio gyda'i gilydd, gyda chefnogaeth oedolion sy'n cydnabod ac yn ymateb yn sensitif i'w hanghenion unigol.

Wrth wraidd ein hysgol gynhwysol mae caredigrwydd, parch a'r gred y dylai pob plentyn deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall, a'i fod yn gallu llwyddo. Rydym yn chwilio am athro/athrawes sy'n rhannu'r gwerthoedd hyn ac a fydd yn mynd ati i gynnal ein hethos, gan weithio gyda phlant, teuluoedd a chydweithwyr i sicrhau bod gan bob dysgwr ymdeimlad cryf o berthyn i'n teulu Nantymoel.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Dangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, a dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant a'r Cwricwlwm i Gymru.

Bod yn frwdfrydig am egwyddorion Froebel, gan gynnwys archwilio dan arweiniad plant, adnoddau penagored a rôl yr oedolyn wrth gefnogi ac ymestyn dysgu.

Deall pwysigrwydd dull sy'n ystyriol o drawma, gan gydnabod bod diogelwch emosiynol, cysylltiad a rheoleiddio emosiynol yn sail i barodrwydd plant i ddysgu.

Creu amgylcheddau dysgu tawel, croesawgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo'n ddiogel, ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi.

Cynnal disgwyliadau uchel i bob dysgwr, gan ddefnyddio arsylwi ac asesu i ddarparu cymorth a her briodol.

Bod yn fyfyriol, yn greadigol ac yn barod i ddatblygu arfer proffesiynol ochr yn ochr â thîm cefnogol ac ymroddedig.

Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a chydweithwyr, gan ddangos ymrwymiad i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon sy'n rhannu ein gweledigaeth ac sy'n awyddus i gyfrannu at ein gwaith parhaus o ddatblygu amgylcheddau meithringar a phrofiadau dysgu cyfoethog i bob plentyn. Amlinellwch eich profiad perthnasol, eich cryfderau a'ch diddordebau yn eich cais.

Os ydych yn angerddol am addysgu yn y Blynyddoedd Cynnar ac os hoffech wneud gwahaniaeth fel rhan o'n teulu Nantymoel, byddem yn falch iawn o dderbyn eich cais.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Tachwedd 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Tachwedd 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 30 Tachwedd 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person