MANYLION.
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Gwaith Saer a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Darlithydd Gwaith Saer a delir fesul awr

Sylwer, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)


Oes gennych chi gymhwyster crefft Lefel 3 mewn Gwaith Saer? Ydych chi'n chwilio am ffordd wych o wneud gwahaniaeth ac addysgu cenhedlaeth y dyfodol ar lefel Addysg Bellach? Os ydych chi'n angerddol am ysbrydoli ac ysgogi pob dysgwr, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Rydym yn chwilio yn benodol am sgiliau a phrofiad mewn Gwaith Saer. Byddai ystod o sgiliau adeiladu gan gynnwys toi yn ddymunol. Bydd gennych brofiad diwydiannol perthnasol a diweddar a byddwch yn llythrennog mewn TG. Bydd gennych hefyd dystysgrif TAR (neu'n barod i'w chael) a bydd gwybodaeth am gynllunio, cyflwyno ac asesu cwricwlwm City and Guilds hefyd yn hynod ddymunol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau y n Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.