MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Cymwysedig Arbenigol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy'n Fyddar (QTOD) Genedigaeth hyd at 19 oed
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Ynglŷn â'r swydd wagCyfeirnod y Swydd Wag: 4063
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2028
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£26.43 - £32.11
Oriau Contract:
16 awr a 25 munud
Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn awyddus i benodi Athro/Athrawes brwdfrydig, cydwybodol ac â chymwysterau addas ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Byddar (QTOD) i ymuno â'n Gwasanaeth Cynhwysiant Synhwyraidd.
Mae'r rôl werth chweil hon yn cynnig cyfle i weithio o fewn tîm arbenigol, gan rannu'r cyfrifoldeb am ddarparu cymorth a darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr byddar o'u genedigaeth hyd at 19 oed. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo cynhwysiant, sicrhau mynediad cyfartal at ddysgu a helpu plant a phobl ifanc byddar i gyflawni eu potensial personol, cymdeithasol ac addysgol llawn.
Gan weithio'n gydweithredol gyda theuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion, gwasanaethau Awdioleg Bediatrig a gweithwyr proffesiynol eraill, byddwch yn darparu addysgu arbenigol, ymyraethau wedi'u targedu, cyngor, cymorth a hyfforddiant. Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddarpariaeth ddyddiol a datblygiad parhaus y gwasanaeth, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc byddar ar draws yr awdurdod lleol.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Elinor Williams ar erwilliams@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
Teacher of Deaf Job Profile.pdf - 207KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 15/11/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.