MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : £13.45 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo Achlysurol

Coleg Penybont

Cyflog: £13.45 yr awr

Cynorthwyydd Arlwyo Achlysurol

£13.45 yr awr

Yn ystod y tymor yn unig

Pwrpas y Swydd: Byddwch yn cynorthwyo i baratoi bwyd a diodydd ac yn helpu i gynnal amgylchedd glân a diogel.

Os oes gennych chi sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych a hoffech weithio ym maes arlwyo, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .

Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar ran Engage Training, cwmni cyfyngedig preifat, ac is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Goleg Penybont. Bydd y contract cyflogaeth a'r telerau ac amodau cysylltiedig ar gyfer y swydd hon gydag Engage Training.

Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff ac mae'r swydd uchod yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Yn Engage Training rydym yn darparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch i'n helpu i recriwtio a chadw'r rhai ag anableddau a chyflyrau iechyd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw Engage Training yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u Hawl i Weithio yn y DU, os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.