MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £29,828 - £32,367 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £29,828 - £32,367 / blwyddyn
Swyddog Cyflogadwyedd a Chyswllt DSW (Twf Swyddi Cymru+)Application Deadline: 9 November 2026
Department: Dysgu Seiliedig ar Waith
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith
Compensation: £29,828 - £32,367 / blwyddyn
DescriptionRydyn ni'n chwilio am Swyddog Cyflogadwyedd a Chyswllt DSW trefnus i gefnogi cyflwyno ein rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws. Mae hon yn rôl barhaol, lawn amser wedi'i lleoli are Gampws y Graig. Mae'r swydd yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc wrth iddynt feithrin hyder, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a symud ymlaen tuag at gyflogaeth, Prentisiaeth neu ddysgu pellach.
Wrth wraidd y rôl mae ymgysylltu â chyflogwyr. Byddwch yn datblygu perthnasoedd gyda chyflogwyr, hyrwyddo manteision gweithio gyda rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws a nodi lleoliadau gwaith, ymweliadau cyflogwyr, treialon gwaith a chyfleoedd dilyniant. Byddwch yn cydlynu lleoliadau gwaith o'r sgwrs gyntaf drwy baru, paratoi, cychwyn, monitro a chwblhau, gan wneud yn siŵr bod dysgwyr a chyflogwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir. Hefyd byddwch yn cefnogi cwblhau gwaith yn ymwneud ag addasrwydd, iechyd a diogelwch, diogelu, hygyrchedd a threfniadau ar gyfer addasiadau rhesymol.
Yn ogystal mae ffocws ar gyflwyno'n rhan o'r rôl. Gan weithio ochr yn ochr ag Ymgynghorwyr Hyfforddi Twf Swyddi Cymru Plws, byddwch yn helpu creu rhaglen gynefino strwythuredig a diddorol yn y ganolfan. Byddwch yn cynllunio a chyflwyno gweithdai cynhwysol ac arloesol sy'n cwmpasu meysydd megis datblygu CV, ceisiadau, paratoi ar gyfer cyfweliad, disgwyliadau gweithle, cyfathrebu, sgiliau digidol ac effeithiolrwydd personol. Bydd Ymgynghorwyr Hyfforddi yn parhau'n gyfrifol am lwythi achosion dysgwyr a chydlyniad y rhaglen, tra byddwch chi'n darparu cefnogaeth gydag ymgysylltu â chyflogwyr, lleoliadau gwaith, gweithdai a gweithgarwch dilyniant.
Byddwch yn gweithio gyda staff Cymorth Dysgu, ADY, Lles, Diogelu, Gyrfaoedd, timau cwricwlwm a gwasanaethau arbenigol eraill. Bydd hyn yn cynnwys helpu i gydlynu cefnogaeth, atgyfeiriadau ac addasiadau rhesymol, yn ogystal â chefnogi ymweliadau addysgol, sgyrsiau cyflogwyr, gweithgareddau cymunedol, teithiau a chyfleoedd cyfoethogi. Bydd cofnodion cywir, cyfathrebu clir a chamau dilynol yn hanfodol trwyddi draw.
Rydyn ni'n croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd proffesiynol amrywiol. Nid yw profiad uniongyrchol o raglen Twf Swyddi Cymru Plws neu addysg yn ofynnol lle gellir dangos profiad trosglwyddadwy perthnasol. Efallai eich bod wedi gweithio ym maes ymgysylltu â chyflogwyr, rheolaeth cyfrifon, gwasanaeth cwsmer, hyfforddi, darpariaeth gymunedol, digwyddiadau, cyflogadwyedd neu rôl arall yn ymwneud â meithrin perthnasoedd a chydlynu. Dylech chi fod yn hyderus wrth gyfathrebu â chynulleidfaoedd, gallu ymdopi â blaenoriaethau cystadleuol, ac yn ymrwymedig i ddiogelu, cynhwysiant a chanlyniadau ar gyfer pobl ifanc.
Mae ymuno â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golygu eich bod yn dod yn rhan o sefydliad cydweithredol sy'n gwerthfawrogi proffesiynoldeb, arloesedd, cyfleoedd dwyieithog a gwelliant parhaus. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr cefnogol a phartneriaid allanol, gan gyfrannu syniadau a llunio profiad ymatebol i ddysgwyr. Os ydych yn mwynhau meithrin perthnasoedd, creu cyfleoedd a helpu pobl i symud ymlaen ar draws ein cymunedau byddem yn croesawu eich cais.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd y Swyddog Cyflogadwyedd a Chyswllt DSW yn gwneud y canlynol;
Ymgysylltu â chyflogwyr a chydlynu lleoliadau gwaith
- Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chyflogwyr presennol a darpar gyflogwyr, gan hyrwyddo rhaglen Twf Swyddi Cymru+ a'r manteision o ddarparu profiad gwaith ystyrlon a chyfleoedd dilyniant.
- Nodi a datblygu lleoliadau gwaith addas, ymweliadau cyflogwyr, treialon gwaith, cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a swyddi Prentisiaeth gwag sy'n adlewyrchu diddordebau dysgwyr, eu hanghenion cefnogaeth a'u cyrchnodau dilyniant.
- Cydlynu proses lleoliadau gwaith o'r cyswllt cyntaf â chyflogwyr drwodd at baru, paratoi, cychwyn, monitro a chwblhau, gan wneud yn siŵr bod dysgwyr a chyflogwyr yn deall eu disgwyliadau unigol.
- Sicrhau bod gwiriadau addasrwydd lleoliadau gwaith, asesiadau risg, trefniadau iechyd a diogelwch, yswiriant, ystyriaethau diogelu, hygyrchedd ac addasiadau rhesymol cytunedig yn cael eu cwblhau a'u cofnodi yn unol â gofynion y Coleg a'r rhaglen.
- Parhau i gyfathrebu'n rheolaidd â chyflogwyr, dysgwyr ac Ymgynghorwyr Hyfforddi i fonitro presenoldeb, perfformiad, lles a chynnydd yn y lleoliad gwaith, gan ymateb yn brydlon i bryderon a chefnogi camau priodol.
- Cadw cofnodion cywir a chyfoes o fanylion cyswllt cyflogwyr, cyfleoedd lleoliad gwaith, swyddi gwag, cydweddiadau dysgwyr, gweithgarwch a deilliannau gan ddefnyddio systemau cymeradwy'r Coleg.
- Gweithio gyda thimau Byddwch yn Uchelgeisiol, timau Prentisiaethau, cydweithwyr cwricwlwm a gwasanaethau perthnasol eraill i gefnogi dilyniant i gyflogaeth, Prentisiaeth neu ddysgu pellach.
- Gweithio ar y cyd ag Ymgynghorwyr Hyfforddi Twf Swyddi Cymru+ i gefnogi cyflwyniad effeithiol rhaglenni ar draws y cyfnod cynefino, darpariaeth yn y ganolfan, paratoadau ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a dilyniant, heb ddyblygu cyfrifoldeb yr Ymgynghorydd Hyfforddi ar gyfer y llwyth achosion o ddysgwyr.
- Cefnogi gweithgarwch cynefino a chyfarwyddo dysgwyr, gan gynnwys cwblhau dogfennau digidol cytunedig, gweithgarwch dysgu ar-lein a chofnodion cywir o fewn systemau megis Maytas Hub a WEST.
- Cefnogi Ymgynghorwyr Hyfforddi i ennyn diddordeb dysgwyr unwaith eto a chydlynu ymyriadau amserol lle mae presenoldeb, lles, hyder, anghenion cefnogaeth neu rwystrau eraill yn effeithio ar gyfranogiad neu ddilyniant.
- Cynllunio a chyflwyno gweithdai diddorol, cynhwysol ac arloesol yn ystod y cyfnod cynefino a darpariaeth yn y ganolfan, gan gynnwys cyflogadwyedd, chwilio am swyddi, ceisiadau, datblygu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, disgwyliadau'r gweithle, cyfathrebu, sgiliau digidol ac effeithiolrwydd personol.
- Addasu cynnwys gweithdai a dulliau cyflwyno i adlewyrchu mannau cychwyn dysgwyr, anghenion dysgu ychwanegol, gofynion hygyrchedd ac iaith ddewisol, gan ddefnyddio adborth a chyfranogiad dysgwyr i wella cyflwyniad yn y dyfodol.
- Gweithio ar draws adrannau'r Coleg, gan gynnwys Cymorth Dysgu, ADY, Lles, Diogelu, Gyrfaoedd, timau cwricwlwm a gwasanaethau arbenigol eraill, i helpu Ymgynghorwyr Hyfforddi gydlynu cefnogaeth briodol ar gyfer dysgwyr.
- Cefnogi atgyfeiriadau i wasanaethau mewnol ac allanol yn unol â gweithdrefnau cytunedig, cydsyniad, terfynau proffesiynol, cyfrinachedd a gofynion diogelu data, gan gynnal cofnodion clir a dilyn i fyny ar gamau gweithredu cytunedig.
- Helpu cyfathrebu trefniadau cefnogi cytunedig ac addasiadau rhesymol i gydweithwyr perthnasol a chyflogwyr, ble bo'n briodol ac yn awdurdodedig, fel bod dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn ddiogel ac yn llwyddiannus.
- Cefnogi Ymgynghorwyr Hyfforddi gyda'r gwaith o gynllunio a chydlynu rhaglen gynefino strwythuredig a diddorol yn y ganolfan, gan gynnwys sgyrsiau cyflogwyr, ymweliadau addysgol, gweithgareddau cymunedol, teithiau a chyfleoedd cyfoethogi eraill.
- Cydlynu'r trefniadau ymarferol ar gyfer ymweliadau a gweithgareddau, gan gynnwys cymeradwyaethau, asesiadau risg, hygyrchedd, cludiant, trefniadau mewn argyfwng a chaniatâd dysgwyr, yn unol â gweithdrefnau'r Coleg.
- Cludo dysgwyr gan ddefnyddio cerbyd awdurdodedig y Coleg neu fws mini pan fo wedi cymhwyso'n briodol, wedi'i asesu, wedi'i awdurdodi a'i yswirio i wneud hynny.
- Cyfrannu at dargedau perfformio Twf Swyddi Cymru+ , gweithgarwch gwella ansawdd, hunanasesu a gwaith cynllunio gweithredu trwy ddarparu gwybodaeth gywir a defnyddio adborth dysgwyr a chyflogwyr i wella darpariaeth.
- Cyfrannu astudiaethau achos priodol, straeon cyflogwyr a chynnwys hyrwyddol, gan weithio gyda thimau perthnasol y Coleg a sicrhau'r caniatâd angenrheidiol.
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, diogelu, y Gymraeg a chyfleoedd ar gyfer cyfranogiad dwyieithog drwy gydol pob agweddau ar y rôl.
- Mynychu cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd y Coleg, cymryd rhan mewn arfarniadau ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant gorfodol perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill sy'n gymesur â gradd a phwrpas y swydd, yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth neu reolwr awdurdodedig.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Cymhwyster lefel 3 neu gyfwerth
- Cymhwyster lefel 2 mewn cyfathrebu, Cymraeg neu Saesneg, neu gyfwerth.
- Cymhwyster Lefel 2 mewn TG neu gymhwysedd digidol cyfwerth dangosadwy
- Profiad o ymgysylltu â chyflogwyr, datblygu perthnasoedd allanol neu gydlynu lleoliadau gwaith neu gyfleoedd tebyg.
- Profiad o gynllunio a chyflwyno gweithdai diddorol, hyfforddiant neu weithgareddau dysgu mewn grŵp.
- Profiad o gefnogi pobl ifanc neu ddysgwyr i oresgyn rhwystrau a symud ymlaen tuag at gyrchnodau cytunedig.
- Profiad o gynnal cofnodion cywir, gan ddefnyddio systemau digidol a gweithio tuag at dargedau perfformio neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs).
- Sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a meithrin perthnasoedd cryf, gyda'r hyder a'r ddiplomyddiaeth i ymgysylltu dysgwyr, cyflogwyr a phartneriaid.
- Gallu cynllunio gweithgareddau dysgu cynhwysol,creadigol a diddorol sy'n ymateb i wahanol anghenion a mannau cychwyn dysgwyr.
- Sgiliau trefniadol cryf a'r gallu i ymdopi â blaenoriaethau cystadleuol, bodloni terfynau amser a dilyn gweithgaredd drwodd tan ei gwblhau.
- Deall diogelu, terfynau proffesiynol, cyfrinachedd, cydraddoldeb ac anghenion cefnogaeth pobl ifanc.
- Gallu gweithio'n gydweithredol, defnyddio blaengarwch, datrys problemau a chyfrannu'n gadarnhaol i dîm amlddisgyblaethol.
- Gallu teithio'n effeithiol i gampysau, safleoedd cyflogwyr a lleoliadau allanol ar draws y rhanbarth.
- Parodrwydd a chymhwysedd i ymgymryd ag asesiad gyrrwr cymeradwy bws mini'r Coleg neu hyfforddiant lle bo'n ofynnol yn weithredol.
- TAR neu gymhwyster addysgu neu hyfforddi cydnabyddedig arall.
- Cymhwyster perthnasol mewn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, cyflogadwyedd, gwaith ieuenctid, cymorth dysgu neu faes perthynol.
- Profiad o waith trawsadrannol neu amlasiantaethol, gan gynnwys cydlynu atgyfeiriadau i wasanaethau cefnogi.
- Profiad o gynllunio ymweliadau addysgol, gweithgareddau cyfoethogi neu ddigwyddiadau, gan gynnwys asesu risg a chydlynu ymarferol.
- Hawl presennol i yrru bws mini neu gymhwyster gyrrwr bws mini cydnabyddedig neu hyfforddiant.
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein