MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : Circa £200,000 - Circa £200,000
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Circa £200,000 - Circa £200,000
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Llythyr Croeso gan Fyfyrwyr y Coleg Llythyr Croeso gan Gadeirydd y BwrddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Mae ein partneriaid recriwtio AoC yn ein cefnogi ni gyda'r broses recriwtio hon. Edrychwch ar y microwefan i gael manylion llawn am y rôl a'r broses ymgeisio: https://www.aoc.co.uk/recruitment/current-opportunities/chief-executive-officer?x-craft-preview=3d6e2caaf9cc8667177eadf4d80d562bce8b7dbe6cfde843ab3ac39784f791beqbxiqhsbvo&token=o7KwBHm6SSNFfpNgJWDNXCCUrEUquo4C neu cysylltwch â Bernie Cullen: bernie.cullen@aoc.co.uk
Mae Coleg Cambria yn un o golegau mwyaf y DU yn ogystal â bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus. Mae'n gweithredu fel y prif ddarparwr addysg drydyddol ac addysg bellach ledled Gogledd Ddwyrain Cymru. Gydag incwm blynyddol sydd dros £95 miliwn a phum safle, gan gynnwys darpariaeth chweched dosbarth a safle o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar astudiaethau tir, rydym yn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i gymunedau ar draws rhanbarth sydd â phoblogaeth o tua 400,000 o bobl.
Mae Coleg Cambria yn cael ei gydnabod am ragoriaeth academaidd, arloesedd a chanlyniadau cadarn i fyfyrwyr ac yn chwarae rhan allweddol wrth hybu sgiliau, dyhead a thwf economaidd rhanbarthol. Trwy bartneriaethau effeithiol â chyflogwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid cymunedol, rydym yn siapio'r dyfodol ar gyfer dysgwyr, busnesau a chymunedau. Rydym yn ddarparwr blaenllaw o addysg Gymraeg a ddwyieithog ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac rydym yn sicrhau bod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn cael ei ddathlu ac yn rhan fyw o fywyd bob dydd y coleg.
Ein pobl sy'n sail i'n llwyddiant. Fel sefydliad blaenllaw yn y sector, rydym yn ddewis cyntaf gan fyfyrwyr ac yn gyflogwr o nod, lle mae diwylliant, cydweithio a llesiant wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn meithrin amgylchedd lle mae dysgwyr a chydweithwyr yn cael eu grymuso i ragori, datblygu a gwneud gwahaniaeth. Mae ein dull cydweithredol o ran Partneriaeth Gymdeithasol yn sicrhau ymgynghori a chyd-greu dilys o fewn y coleg sydd wedi'i wreiddio'n yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Rydym yn cynnig cwricwlwm amrywiol ac uchelgeisiol, sy'n amrywio o raglenni Safon Uwch a llwybrau galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i bortffolio Addysg Uwch effeithiol a darpariaeth seiliedig ar y tir a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol. Mae ein hymrwymiad i ddarparu dysgu eithriadol, wedi'i bersonoli, yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu grymuso i gyflawni eu potensial llawn.
Mae Coleg Cambria mewn sefyllfa gadarn. Yn ogystal â sylfaen ariannol gadarn, rydym yn parhau i fuddsoddi dros £30 miliwn i gyfleusterau sy'n arwain y diwydiant. Mae ein partneriaethau â chyflogwyr yn parhau i ysgogi arloesedd yn y cwricwlwm a'n rhaglen uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid digidol yn gwella'r profiad i fyfyrwyr a staff.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Brif Weithredwr eithriadol i arwain Coleg Cambria. Mae hon yn gyfle prin i siapio dyfodol un o golegau mwyaf llwyddiannus y DU, gan adeiladu ar ein sylfaen ragorol a chynyddu ein heffaith ar ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled y rhanbarth.
Bydd ein Prif Weithredwr nesaf yn adeiladu ar lwyddiant eithriadol Coleg Cambria drwy arweinyddiaeth ysbrydoledig i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn sefydliad ystwyth a blaengar. Bydd yn hyrwyddo cyfranogiad ac yn ysgogi ffyniant economaidd, yn cynnig darpariaeth arloesol o safon uchel ac yn meithrin gweithle cefnogol a ffyniannus.
Gan weithio'n agos gyda'r Bwrdd, y Bartneriaeth Gymdeithasol, staff, dysgwyr a rhanddeiliaid, byddwch yn sbarduno ac yn cyflawni gweledigaeth strategol gymhellol sy'n paratoi'r coleg ar gyfer llwyddiant parhaus mewn amgylchedd sy'n datblygu'n gyflym. Byddwch yn arwain y coleg trwy'r cyfleoedd a'r heriau a ddaw yn sgil datblygiadau yn y sector trydyddol, blaenoriaethau Medr a Llywodraeth Cymru, a dyheadau ein partneriaid rhanbarthol, gan sicrhau bod Coleg Cambria yn parhau i fod ar y blaen o ran rhagoriaeth addysgol ac arloesedd.
Fel hyrwyddwr amlwg a dylanwadol i'r coleg, byddwch yn meithrin ac yn atgyfnerthu partneriaethau strategol ar draws y llywodraeth, y byd busnes, addysg a'r gymuned ehangach, gan fanteisio ar gyfleoedd i gynyddu ein heffaith, ein henw da a'n cyrraedd. O fewn y sefydliad, byddwch yn ysbrydoli ac yn grymuso tîm arwain galluog a gweithlu talentog, gan feithrin diwylliant o uchelgais, cydweithio, arloesi a gwelliant parhaus.
Rydym yn chwilio am arweinydd uchelgeisiol, sy'n cael ei arwain gan werthoedd ac sydd ag ysbryd menter, gyda hanes profedig o lwyddiant o fewn sefydliad mawr a chymhleth. Bydd gennych weledigaeth strategol, craffter masnachol, a sgiliau arweinyddiaeth eithriadol, ynghyd â'r gallu i drosi uchelgais yn ganlyniadau diriaethol. Yn gredadwy ac yn graff yn wleidyddol, bydd gennych y presenoldeb, y dilysrwydd a'r sgiliau meithrin perthynas i ymgysylltu ag ystod amrywiol o gynulleidfaoedd a'u hysbrydoli.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn rhannu ein hangerdd dros drawsnewid bywydau trwy addysg a'n hymrwymiad i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr. Mae gwerthfawrogiad o ddiwylliant ac iaith Cymru yn hanfodol, ochr yn ochr ag ymrwymiad diffuant i hyrwyddo ac ymgorffori'r iaith Gymraeg a'i diwylliant drwy gydol ein cymuned coleg wrth i ni gyfrannu at greu Cymru ffyniannus a llewyrchus.
Dyma gyfle prin i arwain sefydliad sy'n arwain y sector, sydd â sylfaen ariannol gadarn, enw da rhagorol a dyfodol uchelgeisiol. Os ydych am wneud gwahaniaeth parhaol i ddysgwyr, cymunedau a'r rhanbarth ehangach, byddai'n bleser mawr cael clywed gennych.
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig