MANYLION.
  • Lleoliad: All Wales, All Wales, CF10 2HH
  • Pwnc: Cynghorydd Cyflogadwyedd
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Misol
  • Cyflog : Heb ei ddarparu
  • Iaith: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2026 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swydd Wag: Anogydd Cyflogadwyedd (Cymraeg yn hanfodol) – Cyswllt/CGC

Gyrfa Cymru
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid drwy defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.

Anogydd Cyflogadwyedd (Cymraeg yn hanfodol) – Cyswllt/CGC

Cyflog: £26,276–£28,256
Cyflog Cychwynnol £26,276

Mae gennym swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC). Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth CGC ar agor o 9yb tan 5yh, felly bydd disgwyl i ddeiliad swydd weithio i gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.

Mae'r swydd yn ddigidol, felly gall yr ymgeisydd llwyddiannus gael ei l/lleoli unrhyw le yng Nghymru gan y bydd y rol yn golygu gweithio o'r cartref yn bennaf. Bydd deiliad y swydd yn cael ei neilltuo i ganolfan a bydd angen mynychu’r swyddfa yn ôl gofynion y busnes.

Sgiliau iaith Gymraeg: Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi'n gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus.

Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.

Mae ein Anogyddion Cyflogadwyedd
• yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
• yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
• yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb) i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
• yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).

Dylai Anogyddion Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Gofynion ychwanegol
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Sut i wneud cais
Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a ffurflen gais ar gael yn: Vacancies - Careers Wales (gov.wales)
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar 04/11/2026 (hanner nôs).

Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar 16/11/2026 – 17/11/2026.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

JOB REQUIREMENTS
Ewch i wefan recriwtio Gyrfa Cymru i gael manylion am hyn a'n swyddi gwag eraill. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.