MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Gyfun Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : 22060.00 - 24318.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu - Lefel 4 - Cefnogi a Chyflwyno Dysgu

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 22060.00 - 24318.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytûn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.

Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.

Mwy o wybodaeth
Cytundeb hyd at 31 Awst 2027

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mrs Ffion Gough

Rhif ff ô n: 01248 723441

Cyfeiriad e-bost: goughf3@hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7NG

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 30 Hydref 2026