MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £25,948 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cyfleusterau

Coleg Penybont

Cyflog: £25,948 y flwyddyn

Gweithiwr Cyfleusterau
Cyflog: £25,948 y flwyddyn
Llawn Amser a Chyfnod Penodol am 12 mis

Pwrpas y Swydd: Byddwch yn gyfrifoldeb yn bennaf am gynnal a chadw tiroedd a safleoedd Coleg Penybont o ddydd i ddydd.

Y prif weithgareddau fydd cynorthwyo'r tîm Ystadau i baratoi am gampws newydd Coleg Penybont yng Nghanol y Dref a gwaith datgomisiynu.

Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano:
  • Profiad o gynnal a chadw adeiladau a thir aml-ddefnydd
  • Y gallu i gyflawni tasgau cynnal a chadw'n rheolaidd sy'n cynnwys codi a chario, symud offer, a gweithio ar uchder yn unol â rheoliadau diogelwch.
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar eich menter eich hun.
  • Mae profiad mewn crefftau - e.e. gwaith trydanol, plymio, plastro, gwaith saer, ac ati - ynghyd â gwybodaeth am faterion Iechyd a Diogelwch (megis COSHH, Asesu Risg, ac IOSH), yn hynod ddymunol.

Mae trwydded yrru ddilys yn ofyniad hanfodol o'r swydd hon i gludo offer, cyfarpar a deunyddiau cynnal a chadw'n ddiogel ar draws holl safleoedd y Coleg.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .

Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar ran Engage Training, cwmni cyfyngedig preifat, ac is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Goleg Penybont. Bydd y contract cyflogaeth a'r telerau ac amodau cysylltiedig ar gyfer y swydd hon gydag Engage Training.

Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff ac mae'r swydd uchod yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Yn Engage Training rydym yn darparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch i'n helpu i recriwtio a chadw'r rhai ag anableddau a chyflyrau iechyd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.