MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : Graddfa Gyflog: L15 £74,384 - L21 £85,329\n
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth Gweithredol - Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Graddfa Gyflog: L15 £74,384 - L21 £85,329\n
Byw a Dysgu yng Ngoleuni Iesu GristPennaeth Gweithredol
Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant
ISR L15 - L21
Dyddiad dechrau: Medi 2027
Swydd barhaol ac amser llawn
Gan weithio mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw a Chyngor Sir Penfro, mae corff llywodraethu y ffederasiwn newydd hwn o ysgolion cynradd Catholig am benodi arweinydd rhagorol yn bennaeth gweithredol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus barhau â'r dysgu Catholig llwyddiannus yn y ddwy ysgol a rhannu ei amser rhwng y ddau safle. Byddwch yn arwain tîm uwch-reolwyr sy'n cynnwys dirprwy bennaeth a phennaeth cynorthwyol, a phob un ohonynt yn gyfrifol am reoli un o'r ddau safle ysgol o ddydd i ddydd.
Yr ysgolion
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog (NOR 175) wedi'i lleoli yn nhref sirol fywiog Hwlffordd ac mae ganddi "ethos hynod ofalgar a meithringar" (ESTYN, Mawrth 2023). Mae Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant (NOR 87) wedi'i lleoli yn nhref glan môr hardd Dinbych-y-pysgod ac mae ganddi "weledigaeth glir [...] ac yn gwerthfawrogi pob disgybl fel unigolyn" (Estyn, 2018).
Yr ymgeisydd llwyddiannus
Byddwch yn ymarfer y ffydd Gatholig ac yn arweinydd ysbrydoledig gyda hanes trawiadol o wella ysgolion. Bydd gennych weledigaeth, hyblygrwydd, egni ac angerdd i hwyluso llwyddiant ar gyfer ein disgyblion, ein staff a chymunedau ein plwyfi. Byddwch yn meddu ar y canlynol:
- ymrwymiad personol i addysg Gatholig ac i ddatblygiad ysbrydol y disgyblion,
- dealltwriaeth ragorol o'r Cwricwlwm i Gymru newydd, gweledigaeth glir ar gyfer rhagoriaeth addysgol ac angerdd dros gynnal safonau uchel a gwella canlyniadau disgyblion,
- gweledigaeth strategol, arloesol ar gyfer effeithiolrwydd, cynhwysiant a llesiant ysgolion; a dylanwad y rhain ar ddeilliannau disgyblion,
- sgiliau cyfathrebu rhagorol i allu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr,
- y gallu i adeiladu ar berthnasoedd presennol a datblygu rhai newydd o fewn yr ysgolion, y plwyf ehangach, yr Archesgobaeth, cymunedau lleol a'r awdurdod lleol,
- y gallu i adnabod cryfderau a gwendidau, gan eu defnyddio i ddatblygu potensial disgyblion a staff ymhellach,
- y gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff,
- disgwyliadau uchel i sicrhau bod disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cymell, eu hysbrydoli a'u herio i gyrraedd eu potensial llawn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus lofnodi contract cyflogaeth Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig.
Cwblhewch y ffurflen gais i uwch-arweinwyr ddiweddaraf, a ddarperir gan Wasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig a danfon y ffurflen wedi'i chwblhau i
Kevin Hart, Ymgynghorydd Gwella Ysgolion - kevin.hart@pembrokeshire.gov.uk
Byddwn yn falch o glywed gan rai â diddordeb a byddwn yn croesawu ymweliadau â'n hysgolion. Gellir trefnu'r rhain drwy gysylltu â Mr P Mansfield, cadeirydd y llywodraethwyr, yn patrickmansfield@hotmail.co.uk
Dyddiad cau: 6 Tachwedd 2026
Llunio'r rhestr fer: 9 Tachwedd 2026
Cyfweliadau: 19 Tachwedd 2026 a 20 Tachwedd 2026
Datganiad Diogelu Cyngor Sir Penfro:
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion agored i niwed sydd mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod nhw mor ddiogel â phosibl. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff, a'r gwasanaethau o fewn y cyngor, sy'n nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ogystal â'r dulliau sy'n sicrhau'r cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r cyngor, cynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu gan y cyngor. Mae diogelu yn ddyletswydd i bawb, p'un a ydyn nhw'n gweithio i'r cyngor neu ar ran y cyngor.
Mae penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.