MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
- Cyflog : Gradd 6 £29,071 x 77.15% (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Learning Support Assistant (ASD) at Aberdare Community School
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Gradd 6 £29,071 x 77.15% (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002746 Dyddiad postio 16/10/2026 Dyddiad cau ceisiadau 30/10/2026 Cyflog Gradd 6 £29,071 x 77.15% (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig) Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil JD - LSA Aberdare - June 2024 (English).doc
Learning Support Assistant (ASD) at Aberdare Community School
Disgrifiad Swydd
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu
Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig - Ysgol Gymuned Aberdar
32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)
Graddfa Gyflog: Gradd 6 £29,071 x 77.15% (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)
Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams:
Rachel.Williams3@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Hydref 2026
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r C