MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham, Wrexham, LL11 1HR
  • Pwnc: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : Heb ei ddarparu
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Tachwedd, 2026 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr - Gwaith Ieuenctid

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion ar ein cyrsiau Gwaith Ieuenctid yn Wrecsam. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y Ieuenctid, Cymuned a Gwaith Chwarae.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Rydym yn chwilio am geisiadau ar gyfer cyflwyno'r ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid fel y nodir isod:

Amserlen: Dydd Mercher, 9.30yb – 4.30yh (amser tymor yn unig) 
Dull Cyflwyno: Wyneb-i-Wyneb   
Lleoliad: Prifysgol Wrecsam
Cytundeb: Cytundeb Tâl fesul yr awr, cyfnod penodol at Gorffennaf 2027  

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Llun 2il Tachwedd 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cynhelir cyfweliadau Dydd Mercher 11eg Tachwedd. Os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.
Os oes angen i chi gyflwyno'ch cais mewn dull arall, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.