MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £9,468 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £9,468 y flwyddyn
15 awr yr wythnosTymor yr Ysgol
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.
Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd cogydd cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr yn cefnogi'r cogydd i baratoi prydau ysgol gynradd am ddim i bawb a rheoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.
Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.
Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 06 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 02 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person