MANYLION.
  • Lleoliad: Brynmenyn Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrawes Ddosbarth - Brynmenyn - Cyfnod Mamolaeth (Dros Dro)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Dros dro i gyflenwi dros absenoldeb mamolaeth - llawn amser am hyd at 12 mis neu pan fydd deiliad y swydd yn dychwelyd.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynmenyn yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant a chydwybodol sydd â phrofiad o addysgu dosbarth blwyddyn 4 ar gyfer cyfnod mamolaeth am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd.

Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir:

Ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth

Meddu ar y gallu i gyrraedd safonau uchel drwy ddisgwyliadau uchel o gynnydd ac ymddygiad

Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o anghenion dysgu ychwanegol gyda'r gallu i addasu dysgu i amrywiaeth o anghenion cymhleth

Gweithio'n gadarnhaol gydag amrywiaeth o staff cymorth a staff ategol

Dangos gwybodaeth dda am ddatblygiadau'r cwricwlwm

Bod yn ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol

Cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol

Dangos agwedd gadarnhaol ac uniaethu â gwerthoedd ac ethos yr ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 04 Tachwedd 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Tachwedd 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 23 Tachwedd 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person