MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhos-on-Sea,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £14,939 - £17,860, y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £14,939 - £17,860, y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae Hyfforddwr Academi Rygbi Bechgyn y coleg yn gyfrifol amlywio'r ddarpariaeth dydd i ddydd ynghyd â datblygiad Academi Rygbi Bechgyn yngNgholeg Llandrillo. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar gynnig hyfforddiant achefnogaeth gyda pherfformiad i ddysgwyr rhwng 16 ac 19 oed yn unol agegwyddorion datblygu chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru (URC) a modelau datblyguathletwyr yn y tymor hir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio'n agosgyda Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, Arweinydd Rygbi Merched, staff y coleg ac arweinydd CanolfanDatblygu Chwaraewyr URC y Gogledd ac yn gweithio ar ddatblygiad technegol,tactegol, corfforol a seicolegol chwaraewyr mewn amgylchedd chwaraeon cynhwysolsy'n hybu ac yn ysgogi perfformiad ar y safon uchaf.Bydd y rôl hon yn rhoi'r cyfle i chi gyfrannu at dwf allwyddiant Academi Rygbi Coleg Llandrillo ac yn cefnogi dysgwyr i wneud cynnyddyn eu hastudiaethau academaidd a datblygu eu sgiliau rygbi ar yr un pryd. Bydd ydyletswyddau'n cynnwys cynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddiant effeithiol,cefnogi cynlluniau datblygu chwaraewyr unigol, cyfrannu at broses dadansoddiperfformiad a phrofi ffitrwydd a threfnu gemau a gweithgareddau ar ddiwrnodgêm. Bydd deilydd y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda staff acdemaidd a'rgwasanaethau cefnogi ac yn sicrhau bod dysgwyr yn cynnal lefelau presenoldeb, ymgysylltiada llesiant da, ac yn gallu cydbwyso gofynion rhaglenni chwaraeon ac academaidd.
Yn ogystal bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhanallweddol yn y gwaith o gefnogi'r broses recriwtio, adnabod talent a datblygiady llwybr rygbi bechgyn. Gan weithio gyda chydweithwyr yn y coleg, staff URC aphartneriaid allanol, bydd y rôl yn cyfrannu at gynnal safonau Trwydded A URC, monitordatblygiad dysgwyr ac yn cefnogi blaenoriaethau strategol Coleg Llandrillo acUndeb Rygbi Cymru
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/065/26
Cyflog
£14,939 - £17,860, y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos
Cytundeb hyfforddi yn ystod y tymor, 3 awr y diwrnod:
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Gwener
Gemau Cartref/Oddi Cartref ar ddydd Mercher. Amseroedd amrywiol.
Amrywiaethau tymhorol gyda'r gemau ar adegau.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
10 Tach 2026
12:00 YH(Ganol dydd)