MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £20.00 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20.00 yr awr
Tiwtoriaid Dysgu Oedolion yn y Gymuned - Achlysurol£20.00 yr awr
Oes gennych chi'r angerdd a'r sgiliau yr hoffech chi eu rhannu gyda ni? Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i rannu eu gwybodaeth, eu doethineb a'u profiad i helpu myfyrwyr i ennill cymhwyster cydnabyddedig Agored Cymru. Caiff y cyrsiau rhan-amser hyn eu cyflwyno naill ai yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
Rydym yn chwilio am unigolion a hoffai drosglwyddo eu gwybodaeth a'u sgiliau ar draws amrywiaeth eang o bynciau. Yn benodol, rydym yn chwilio am diwtoriaid a all deithio i cc Mae gennym hefyd angen brys, penodol am diwtor TG / Sgiliau Digidol i gyflwyno cyrsiau ym Mlaengarw.
Eich Tasgau :
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno cyrsiau byr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Betws, Nant-y-moel, Blaengarw a Maesteg
- Rhanni eich profiad yn y diwydiant; trosglwyddo eich sgiliau a'ch gwybodaeth i raglenni dysgu ac asesiadau
- Goruchwylio ardaloedd gwaith i sicrhau eu bod yn ddiogel
Gofynion y Swydd:
- Rhywun brwdfrydig a chreadigol, sy'n gweithio'n dda gydag eraill
- Agwedd ragweithiol tuag at waith
- Gallu naturiol i gefnogi ac ysgogi eraill
- Gallu gweithio'n effeithiol
- Profiad o sgil benodol (fel y'i rhestrir isod)
- Mwynhau meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth i'w profiad dysgu.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid yn y meysydd pwnc canlynol ar hyn o bryd:
- Digidol a Thechnoleg (Angen brys am TG ym Mlaengarw):
- Deallusrwydd Artiffisial
- Creadigrwydd Digidol - Defnyddio Offer a Thechnolegau Digidol
- Realiti Rhithwir (VR)
- Ieithoedd a Diwylliant:
- Ffrangeg i Ddechreuwyr
- Eidaleg i Ddechreuwyr
- Cyflwyniad i Ddiwylliant Cymreig
- Cymorth Cwricwlwm Ysgol i Rieni:
- Saesneg i Rieni (Cwricwlwm Blwyddyn 7/8/9)
- Saesneg i Rieni (Cwricwlwm TGAU / Lefel 2)
- Gwyddoniaeth i Rieni (Cwricwlwm Blwyddyn 7/8)
- Addysg Gyffredinol i Oedolion a'r Dyniaethau:
- Gwyddoniaeth i Oedolion: Lefel Sylfaen (Lefel 1)
- Llythrennedd / Saesneg i Oedolion
- Cyflwyniad i Wleidyddiaeth a'r Llywodraeth yng Nghymru
- Cyflwyniad i Economeg yng Nghymru
- Seicoleg
- Celfyddydau Creadigol a Pherfformio:
- Cyflwyniad i'r Celfyddydau Perfformio
- Ysgrifennu Caneuon
- Canu / Côr
- Caligraffeg
- Crefftau, Hobïau a Hygyrchedd:
- Garddio
- Gwaith brics
- Teilsio
- Darllen gwefusau
- Gwnïo
I weld ein cyrsiau amrywiol, ewch i https://www.bridgend.ac.uk/addysg-oedolion/dysgu-oedolion-yn-y-gymuned/?lang=cy
Cofiwch, os nad oes gennych chi brofiad blaenorol o fod yn diwtor, ond bod gennych chi brofiad yn y diwydiant, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! I weld rhagor o wybodaeth am y swydd, cliciwch yma
*NODWCH PA BYNCIAU YR HOFFECH CHI EU DYSGU YN EICH CAIS*
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar ran Engage Training, cwmni cyfyngedig preifat, ac is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Goleg Penybont. Bydd y contract cyflogaeth a'r telerau ac amodau cysylltiedig ar gyfer y swydd hon gydag Engage Training.
Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff ac mae'r swydd uchod yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Yn Engage Training rydym yn darparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch i'n helpu i recriwtio a chadw'r rhai ag anableddau a chyflyrau iechyd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw Engage Training yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u Hawl i Weithio yn y DU, os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.