MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £23,590 - £25,821
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Pontio

Swyddog Pontio

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Pontio

Lleoliad: Llaneurgain

Y Math o Gontract: Parhaol - Rhan-amser (22.2 awr yr wythnos - 3 diwrnod yr wythnos)

Graddfa Gyflog: £23,590 - £25,821 Gan fod y rôl hon yn rhan amser bydd y cyflog hwn yn pro rata.Yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol



Mae Coleg Cambria yn chwilio am Swyddog Pontio i ymuno â’u tîm ar safle Llaneurgain. Byddwch yn gyfrifol am weithredu Project ‘Porth i Gyflogaeth’ Coleg Cambria ar gyfer pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Eich nod fydd cynyddu datblygiad dysgwyr a chynyddu canlyniadau cyflogaeth a chynhwysiant cymunedol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Wrth weithio’n rhan o dîm, byddwch yn datblygu perthnasau proffesiynol gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill tra byddwch yn goruchwylio a hyrwyddo dewis, annibyniaeth, urddas, preifatrwydd a hawliau eraill myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd gydag awydd gwirioneddol a’r sgiliau rhyngbersonol i ysbrydoli eraill a rhoi cynlluniau ar waith yn frwdfrydig. Dylai fod gennych chi brofiad mewn gweithio gyda phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae angen i chi fod yn gyfforddus i greu a datblygu perthnasau gwaith effeithiol gyda chyflogwyr.



Gofynion Hanfodol

Profiad mewn rheoli llwyth gwaith prysur ar eich liwt eich hun

Gwybodaeth a phrofiad mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Profiad blaenorol mewn defnyddio systemau i gadw cofnod, i fonitro a chofnodi gwybodaeth dysgwyr



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 05/07/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Profiad mewn rheoli llwyth gwaith prysur ar eich liwt eich hun

Gwybodaeth a phrofiad mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Profiad blaenorol mewn defnyddio systemau i gadw cofnod, i fonitro a chofnodi gwybodaeth dysgwyr