MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: ICAT,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £54,297 per annum
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £54,297 per annum
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Ddirprwy Bennaeth Adran profiadol ac ysbrydoledig i ymuno â'n hadran Beirianneg.Gan weithio'n agos gyda Phennaeth yr Adran, byddwch yn chwarae rhan arweinyddol allweddol wrth ysgogi gwelliannau yn ansawdd y ddarpariaeth, deilliannau dysgwyr a phrofiad cyffredinol y dysgwr. Byddwch yn cefnogi arweinyddiaeth a datblygiad effeithiol yr adran, gan helpu i sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr addysg proffesiynol profiadol sy'n frwd dros Beirianneg, addysgu a dysgu o ansawdd uchel, a datblygu pobl a darpariaeth.
Yr Hyn y Byddwch yn ei Wneud
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth weladwy ac effeithiol ar draws yr adran, gan gefnogi ac ysgogi timau addysgu i gynnal safonau uchel yn gyson.
Bydd y prif feysydd cyfrifoldeb yn cynnwys:
• Arwain gwelliannau mewn addysgu, dysgu, asesu a deilliannau dysgwyr
• Cefnogi'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm a datblygu darpariaeth sy'n ymateb i anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r sector
• Arwain, datblygu a chefnogi staff i gyflawni safonau perfformiad uchel
• Monitro perfformiad yr adran a rhoi cynlluniau gwella ansawdd ar waith
• Cefnogi'r gwaith o reoli adnoddau, amserlenni a chyllidebau yn effeithiol
• Meithrin perthnasoedd cryf gyda chyflogwyr, ysgolion a phartneriaid allanol eraill i gefnogi datblygiad parhaus y ddarpariaeth Beirianneg
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys ymrwymiad addysgu, a bydd Pennaeth yr Adran yn pennu'r oriau.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a chydweithredol sydd â dealltwriaeth gadarn o addysg Beirianneg a hanes profedig o ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel.
Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran rheoli pobl, cyfathrebu a dadansoddi, ynghyd â'r gallu i arwain timau, rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd a defnyddio gwybodaeth am berfformiad i ysgogi gwelliant parhaus. Byddwch yn hyderus wrth feithrin perthnasoedd effeithiol ar draws y Coleg a chyda phartneriaid allanol.
Bydd gennych gymhwyster galwedigaethol neu academaidd priodol, megis gradd, HNC/D neu gymhwyster cyfatebol a/neu brofiad, ynghyd â chymhwyster addysgu cydnabyddedig a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Byddai profiad o lunio amserlenni a chynllunio'r cwricwlwm yn fantais.
Pam Ymuno â Ni
Mae hwn yn gyfle i ymgymryd â rôl arweinyddol allweddol ym maes Peirianneg yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, gan helpu i lunio darpariaeth o ansawdd uchel a chefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo.
Byddwch yn ymuno â chymuned gydweithredol y Coleg, lle cewch gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad y cwricwlwm, datblygu eich profiad arweinyddiaeth a chael effaith wirioneddol ar brofiad a deilliannau ein dysgwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfeiriwch at y dyddiad Ymgeisio Erbyn ar yr hysbyseb swydd am y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
I gael manylion llawn am y rôl, y cyfrifoldebau a'r fanyleb person, ac i'ch cynorthwyo gyda'ch cais, cyfeiriwch at y pecyn swydd. I gael rhagor o wybodaeth am Goleg Caerdydd a'r Fro, ewch i www.cavc.ac.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio yn recruitment@cavc.ac.uk .
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i'r broses gyfweld ac asesu gael ei chynnal yn Gymraeg.
Mae pob swydd wag yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Ni all cyflogaeth ddechrau nes bod gwiriad DBS boddhaol a chyfredol wedi'i dderbyn. Mae Gweithdrefn y Coleg ar Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Sylwch y gallai fod angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) ar gyfer rhai rolau. Lle bo hyn yn berthnasol, bydd cyflogaeth yn amodol ar gael a chynnal y cofrestriad priodol.
Mae cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn amodol ar eirdaon boddhaol. Cyn y gall cyflogaeth ddechrau, rhaid i'r Coleg dderbyn dau eirda, a rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar. Cysylltir â chanolwyr ar ôl penodi.
Mae'r gwiriadau hyn yn rhan o'n gofynion cyn cyflogaeth a rhaid eu cwblhau'n foddhaol cyn y gall cyflogaeth ddechrau.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu'r dysgwyr a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i recriwtio, datblygu a chadw pobl anabl, gan sicrhau gweithle cynhwysol lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu.