MANYLION
  • Lleoliad: Valleys Innovation Centre, Rhondda Cynon Taf, CF45 4NS
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £59,371.00 - £66,093.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Medi, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Partner Gwella

Partner Gwella

Consortiwm Canolbarth y De​
PWRPAS Y RÔL
I ddarparu her gadarn, adeiladol a chymorth effeithiol o ansawdd uchel a fydd yn cynorthwyo penaethiaid a chyrff llywodraethu yn eu cymhelliant i wneud gwelliannau. I weithredu fel catalydd ar gyfer newid i sicrhau deilliannau gwell i bob dysgwr a darparu mynediad at ymarfer arloesol. I ychwanegu gwerth at wella ysgolion a chyfrannu at godi safonau yn un neu fwy o’r awdurdodau lleol cyfansoddol ac felly y rhanbarth cyfan o ganlyniad.




CYFRIFOLDEBAU PENODOL
1. Yn yr ysgolion sydd wedi eu clustnodi i’r partner gwella, cynorthwyo’r pennaeth trwy ddarparu safbwynt allanol, herio a dilysu arfarniad yr ysgol o’i safonau.

2. Herio a rhoi cymorth i’r pennaeth a’r corff llywodraethu yn eu gwaith i arfarnu effaith arweinyddiaeth a llywodraethu ar ddeilliannau a gallu pob ysgol i wella.
3. Cytuno ar gategori cefnogaeth pob ysgol gyda’r pennaeth a’r llywodraethwyr yn unol â’r model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion, gan gydweithio’n agos â’r prif bartner gwella a’r awdurdod lleol.

4. Cyfrannu at effeithiolrwydd ac effaith prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant pob ysgol, darparu her adeiladol a chymorth o ran ansawdd yr adroddiad hunanarfarnu a chynllun gwella’r ysgol, yn cynnwys i ba raddau mae cynllunio’n llwyddiannus yn mynd i’r afael â’r tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
5. Gweithio fel rhan o dîm, i rannu datrysiadau, cynhyrchu syniadau a datblygu dulliau arloesol o weithio yn seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella cysondeb ac ansawdd ym mhob agwedd ar waith y partner gwella.

6. Cyfrannu at ddatblygu cymorth o ysgol i ysgol yn cael ei arwain gan y sector trwy: ganfod a chyfeirio ysgolion at yr ymarfer mwyaf effeithiol; helpu a hwyluso grwpiau gwella ysgolion a chydweithio rhwng ysgolion; cyfrannu at fonitro effaith cymorth ysgol i ysgol yn cael ei arwain gan y sector ar safonau, ansawdd ac arweinyddiaeth.

7. Gweithio gydag arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion i ganfod a chofnodi anghenion sy’n achosi pryder yn gywir a thrwyadl gan dynnu ar gyfraniad arbenigwyr ble bo angen gwneud hynny.

8. Cymryd cyfrifoldeb arweiniol dros frocera a chydlynu cymorth i gwrdd ag anghenion pob ysgol sy’n achosi pryder, gweithio’n agos gyda’r prif bartner gwella a rheolwyr rhaglen y gwasanaeth.

9. Dwyn arweinwyr ysgolion i gyfrif am greu’r amodau a fydd yn galluogi’r cymorth i gael yr effaith fwyaf a bod yn atebol am sicrhau bod y cymorth yn cael ei ddarparu fel a gytunwyd a’i fod yn effeithiol.

10. Monitro ac adrodd ar gynnydd ysgolion sy’n destun ymyriad yn unol â gweithdrefnau cytûn Consortiwm Canolbarth y De.
11. Cyfrannu, ble’n briodol, at ddarparu her a chymorth mewn ysgolion sydd ddim wedi eu clustnodi i’r partner gwella.
12. Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n darparu gwybodaeth i Gonsortiwm Canolbarth y De ynghylch cryfderau a gwendidau mewn safonau, ansawdd addysg ac arweinyddiaeth mewn ysgolion.
13. Darparu cyngor a chymryd rhan mewn recriwtio uwch arweinwyr ysgolion.
14. Ysgrifennu adroddiadau o ansawdd uchel ac mewn ffordd amserol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Consortiwm Canolbarth y De
15. Cymryd rhan mewn rheoli perfformiad penaethiaid yn unol ag ymarferion a gweithdrefnau cytûn.
16. Cymryd rhan mewn rhaglenni datblygiad proffesiynol personol cytûn a thrwy hynny gyfrannu at ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf.
17. Bod yn atebol am berfformiad personol trwy weithdrefnau rheoli perfformiad cytûn.

Cyflawni cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â dogfen Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch yr Is-adran.
Ymgymryd â dyletswyddau eraill a chyfrifoldebau sy’n gymesur â’ch gradd, fel sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, neu fel cyfle datblygu y cytunwyd arno ar y cyd.
BYDD CYNNWYS Y DDOGFEN HON YN DESTUN ADOLYGIAD O BRYD I’W GILYDD MEWN YMGYNGHORIAD Â DEILIAD Y SWYDD. FE ELLIR DIWYGIO DISGRIFIADAU SWYDDI I ADLEWYRCHU A CHOFNODI NEWIDIADAU O’R FATH.

Mae amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Newid yn gyfrifoldeb craidd i bob aelod o staff. Dylid rhoi gwybod am yr holl bryderon diogelu i Hwb Diogelu Aml-asiantaeth Cwm Taf (MASH).

JOB REQUIREMENTS
Mae’r Fanyleb Person hon yn nodi’r wybodaeth a / neu gymwysterau, profiad blaenorol a chymwyseddau personol a fyddai’n ddelfrydol ar gyfer y swydd arbennig hon.

Mae’r adrannau Gwybodaeth / Cymwysterau a Phrofiad yn disgrifio beth sydd ei angen o ran y gallu technegol sydd ei angen i gyflawni’r swydd hon yn llwyddiannus.

Mae’r adran Cymwyseddau yn disgrifio’r mathau o sgiliau sydd ddim yn dechnegol, galluoedd a nodweddion personol y byddai’r person delfrydol ar gyfer y swydd arbennig hon yn meddu arnynt. Mae’r cymwyseddau’n disgrifio sut y byddai’r person hwnnw’n gweithio’n ddelfrydol gyda phobl eraill a sut y byddai’n ymdrin â’i gyfrifoldebau.

Mae’r adran Amodau Arbennig a Gofynion Proffesiynol yn disgrifio unrhyw rinweddau eraill sy’n addas i’r amgylchiadau penodol sy’n gysylltiedig â’r swydd hon.

PRIODOLEDD HANFODOL DYMUNOL
GWYBODAETH / ADDYSG • Statws athro cymwysedig
• Ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol perthnasol a thystiolaeth o hynny.
• Iaith Gymraeg Lefel 1 - Bydd gofyn i'r holl weithwyr ymgymryd â Ymsefydlu yn yr Iaith Gymraeg i gyrraedd y lefel hon. Ewch at y Canllawiau Sgiliau Iaith Gymraeg ar-lein www.rctcbc.gov.uk/SgiliauCymraeg
• Gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg
• Cymwysterau perthnasol ychwanegol
• Iaith Gymraeg Lefel 2 i Lefel 5. Am fanylion ar y lefelau ewch at y Canllawiau Sgiliau Iaith Gymraeg, a ellir eu gweld yn adran Gwasanaethau Cymraeg ar wefan Cyngor RhCT

PROFIAD • Profiad llwyddiannus fel pennaeth neu mewn safle uwch arweinydd mewn ysgolion neu fel aelod o uwch dîm rheoli neu brofiad cyfwerth mewn sefydliad addysgol, gan gynnwys gwasanaeth gwella ysgolion
• Profiad llwyddiannus a phrofedig o godi safonau mewn ysgol
• Dealltwriaeth o ysgol fel system gydlynol unigol yn gweithredu o fewn cyd-destun ei chymuned
• Gallu ymgymryd â dadansoddiad sefydliad cyfan o ysgol yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddata
• Deall data, sylweddoli beth mae gwybodaeth yn ei olygu i her arweinyddiaeth a rheolaeth ym mhob ysgol
• Medrus yn defnyddio dysgu o brofiad a deall sut y gall arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion wella deilliannau
• Ymwybodol o flaenoriaethau cenedlaethol, CCD, awdurdod lleol a blaenoriaethau ysgol a beth mae’r rhain yn ei olygu i arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion ar bob lefel
• Profiad o ddarparu cyngor, cymorth ac arweiniad i arweinwyr ar bob lefel mewn ysgolion. Y gallu i wneud hynny heb amharu ar y swyddogaeth o herio perfformiad a heb gymylu ffiniau atebolrwydd
• Meddu ar ymrwymiad parhaus i sicrhau’r deilliannau gorau posib i blant a phobl ifanc ac i adnabod yr angen i ymateb i anghenion dysgu grwpiau agored i niwed
• Profiad o arolygiad ysgol

CYMWYSEDDAU
Datblygu ac Ysgogi Pobl • Canfod a gwneud y defnydd gorau o’i sgiliau a sgiliau’r tîm
• Rhannu a dathlu pob llwyddiant ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl eraill yn agored
• Gallu cyfleu negeseuon anodd mewn modd sensitif
• Datblygu pobl ar gyfer y tymor byr a’r tymor hirach, a hybu diwylliant o ddysgu parhaus
Gweithio mewn Partneriaethau a Thimoedd • Adeiladu perthynas barhaus ac adeiladol
• Chwilio’n gyson am gyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaeth trwy weithio gydag eraill
• Hybu a dangos ethos o gydraddoldeb ac amrywiaeth
Cyfathrebu’n Effeithiol • Cyfathrebu’n eglur a chryno ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Cyfathrebu’n gynnar er mwyn tynnu sylw at risgiau annisgwyl ymlaen llaw
• Cyfrannu at amgylchedd lle mae cyfnewid syniadau yn agored a herio priodol yn cael ei dderbyn a’i werthfawrogi
Gweithio’n Strategol • Gyrru neu’n cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau strategol yn seiliedig ar angen go iawn, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
• Meddu ar wybodaeth glir o’r cysylltiadau rhwng gwasanaethau gwahanol a’u cyfraniad posibl.
• Herio darparu gwasanaeth er mwyn hyrwyddo gwelliant cynaliadwy
Cyflawni Canlyniadau • Deall y defnydd o fesurau perfformiad
• Meddu ar agwedd resymegol, drefnus a gwybodus tuag at gynllunio
• Canolbwyntio’n gadarn ar amserlenni ac yn cadw at derfynau amser
• Canolbwyntio ar ymestyn targedau y gellir eu cyflawni ac yn gallu gwneud penderfyniadau caled
Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr Gwasanaeth • Meddu ar brofiad o weithredu polisïau a phrosesau effeithiol sy’n cael effaith ar godi safonau
• Meddu ar ymrwymiad i hybu cynhwysiant ym mhob cyd-destun
• Codi proffil a delwedd y gwasanaeth trwy gyhoeddi llwyddiannau i’r gymuned ehangach
AMODAU ARBENNIG A GOFYNION PROFFESIYNOL Y gallu i deithio trwy’r ardaloedd rhanbarthol i gwrdd â gofynion y swydd.