MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Prentisiaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 June, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 December, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Prentis Cynorthwyol Derbyniadau

Prentis Cynorthwyol Derbyniadau

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Prentis Cynorthwyol Derbyniadau Siarad Cymraeg

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol - Llawn Amser (tan fis Rhagfyr 2022)

Cyflog: Cyflog Prentisiaeth Cenedlaethol (yn ddibynnol ar oedran)

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Brentis Cynorthwyol Derbyniadau i ymuno â’n tîm marchnata sy’n ehangu.

Fel Prentis Cynorthwyol Derbyniadau byddwch yn helpu i ddarparu cymorth o’r radd flaenaf i wasanaeth derbyniadau’r coleg

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon rhaid i chi ganolbwyntio ar wasanaethau i gwsmeriaid a bod ag addysg gradd D o leiaf mewn TGAU

Gofynion Hanfodol

Parodrwydd i gwblhau NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes

Darparu cymorth swyddfa i’r tîm Derbyniadau ar holl safleoedd y coleg

4 TGAU gradd D gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

Trefnus iawn ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol

Gallu cynorthwyo anghenion dysgwyr a gweithwyr y coleg

Gallu cyfathrebu’n effeithiol dros y ffôn, drwy e-bost, sgwrs fyw a neges destun

Agwedd hyblyg, gallu gweithio ar eich liwt eich hun

Gwybodaeth TG sylfaenol a byddai dealltwriaeth o Excel a Word yn fuddiol

Sgiliau defnyddio ffôn da

Prydlon, trefnus, a deall pwysigrwydd sgiliau rheoli amser da

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 02/07/21
JOB REQUIREMENTS