MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,596 - £51,932
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,596 - £51,932
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Cerddoriaeth a Chynhyrchu Sain
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn amser (37 awr yr wythnos) , Parhaol
Cyflog: £33,596 - £51,932 (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)
Ydych chi'n angerddol am siapio'r genhedlaeth nesaf o dalent gerddorol, cynhyrchwyr a pherfformwyr?
Yng Ngholeg Cambria, rydym yn credu bod addysg eithriadol yn dechrau gyda phobl eithriadol - a dyna pam rydym yn rhoi unigolion wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cerddoriaeth egnïol a chreadigol sydd â chariad at y diwydiant ac ymrwymiad i helpu pob myfyriwr i ffynnu.
Eich Effaith yn y Swydd
- Ysbrydoli ac Addysgu: Cyflwyno sesiynau addysgu deinamig, dylunio deunyddiau dysgu deniadol, a darparu adborth adeiladol ar waith myfyrwyr.
- Arwain a Chefnogi: Gweithredu fel tiwtor personol, gan gynnig arweiniad unigol a chymorth bugeiliol i helpu dysgwyr i gyflawni eu nodau.
- Siapio'r Adran: Cymryd rhan mewn cynllunio cyrsiau, recriwtio myfyrwyr, cyfweld a digwyddiadau marchnata'r coleg.
- Cynnal Safonau Uchel: Rheoli cyfrifoldebau gweinyddol yn effeithiol, gan gynnwys cynlluniau gwaith, cofrestrau presenoldeb ac adolygiadau o gyrsiau.
- Adeiladu Cysylltiadau: Cydweithio â thiwtoriaid ar draws adrannau, cyrff dyfarnu a chyflogwyr lleol.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
- Addysg hyd at lefel cymhwyster Lefel 4 o leiaf yn y maes pwnc perthnasol.
- Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safonau ansawdd o fewn addysgu.
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu.
- Gwybodaeth gyfredol a chyfoes am ddatblygiadau yn y sector cerddoriaeth.
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig