MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £33,426 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymgynghorydd Hyfforddi ar gyfer Rhaglenni Twf Swyddi Cymru +

Coleg Sir Gar

Cyflog: £33,426 / blwyddyn

Ymgynghorydd Hyfforddi ar gyfer Rhaglenni Twf Swyddi Cymru +
Application Deadline: 2 October 2026

Department: Dysgu Seiliedig ar Waith

Employment Type: Llawn Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Rheolwr Dysgu Seiliedig Ar Waith

Compensation: £33,426 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn chwilio am Ymgynghorydd Hyfforddi i ymuno â'r tîm Dysgu Seiliedig ar Waith ac i gefnogi cyflwyno Twf Swyddi Cymru Plws. Mae JGW+ yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy'n cael eu hatgyfeirio drwy Cymru'n Gweithio. Mae'r rhaglen yn helpu pobl ifanc i ymgysylltu â dysgu, ennill profiad gwaith a symud ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach. Mae'r Coleg yn cyflwyno JGW+ fel rhan o gonsortiwm B-WBL, a arweinir gan Goleg Sir Benfro.

Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi yn rheoli llwyth achosion a neilltuwyd o tua 35 i 45 o ddysgwyr ac fe fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyson drwy gydol eu rhaglen. Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi recriwtio ac atgyfeiriadau, cynnal sesiynau cynefino dysgwyr, cytuno ar dargedau unigol a monitro cynnydd, presenoldeb a gofynion y rhaglen. Bydd deilydd y swydd yn mentora dysgwyr, yn eu helpu i fynd i'r afael â rhwystrau ac yn sicrhau bod pryderon ynghylch lles neu ddiogelu yn cael eu nodi a'u hatgyfeirio drwy weithdrefnau priodol y Coleg.

Bydd deilydd y swydd yn cydlynu a chyflwyno dysgu wedi'i leoli yn y ganolfan ac yn gweithio'n agos gyda thiwtoriaid, aseswyr a gwasanaethau cefnogi'r Coleg gan helpu dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau a symud ymlaen. Mae ymgysylltiad cryf â chyflogwyr hefyd yn ganolog i'r rôl. Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasoedd â chyflogwyr, sicrhau lleoliadau profiad gwaith addas, a rhoi gwybod i gyflogwyr ynghylch cynnydd a phresenoldeb dysgwyr, gan gynnwys cyswllt ffurfiol o leiaf bob 61 o ddiwrnodau.

Mae'r rôl y gofyn gwaith gweinyddol cywir ac amserol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cadw cofnodion dysgwyr drwy Maytas Hub a systemau digidol eraill, bydd yn bodloni terfynau amser y rhaglen ac yn cyfrannu at dargedau perfformio JGW+, prosesau ansawdd a gwerthuso darpariaeth dysgu seiliedig ar waith.

Dyma gyfle i gefnogi pobl ifanc ar gyfnod pwysig yn eu datblygiad a'u helpu i feithrin y sgiliau, hyder a phrofiad sydd eu hangen ar gyfer eu cam nesaf.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Ymgynghorydd Hyfforddi:
  • Weithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio a'r Consortiwm i recriwtio dysgwyr.
  • Sicrhau bod holl KPIs rhaglen JGW+ yn cael eu bodloni.
  • Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Llinell ar bob agwedd o'r ddarpariaeth.
  • Cynnal a chydlynu rhaglenni cynefino cynhwysfawr gyda dysgwyr.
  • Cydlynu a chyflwyno sesiynau wedi'u lleoli yn y ganolfan i grwpiau o ddysgwyr JGW+
  • Sicrhau bod cyflogwyr lleoliad gwaith dysgwyr yn cael gwybod am gynnydd yn erbyn pob targed a phresenoldeb mewn dosbarthiadau o leiaf bob 61 diwrnod yn dilyn y canllawiau adolygu priodol.
  • Cefnogi a mentora'r dysgwyr drwy gydol eu rhaglen gan eu galluogi i gwblhau yn llwyddiannus a'u cyfeirio at y cam nesaf o ddysgu neu gyflogaeth.
  • Cefnogi'r cyflogwr, darparu adborth ynghylch cynnydd yn rheolaidd, gan sicrhau ymrwymiad parhaus y cyflogwyr i'r dysgwr a'r rhaglen.
  • Sicrhau bod yna gyswllt effeithiol rhwng rheolwyr, athrawon, tiwtoriaid ac aseswyr i wneud yn siŵr bod cynnydd pob dysgwr yn golygu ei fod yn cwblhau ei gymhwyster.
  • Sicrhau bod yr holl brosesau gweinyddol/digidol sy'n gysylltiedig â'r rôl yn cael eu cwblhau i'r safonau uchaf ac mewn pryd.
  • Cwblhau'r holl brosesau digidol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni ac yn cael eu cymhwyster.
  • Cynnal datblygiad proffesiynol parhaus personol
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi, a chyfrannu at brosesau gwerthuso adroddiad hunanasesu blynyddol Dysgu Seiliedig ar Waith.
  • Sicrhau bod y themâu croestoriadol e.e. ADCDF, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, Prevent a'r Gymraeg yn cael eu hymgorffori yn y prosesau cyflwyno ac asesu.
  • Defnyddio a chynnal systemau olrhain priodol gan ddefnyddio Maytas Hub.
  • Gweithredu fel sianel rhwng cyflogwyr a'r coleg i sicrhau bod yr holl gysylltiadau busnes yn cael eu cyfeirio at y BDI
  • Sicrhau bod lles a diogelu pob dysgwr yn cael eu monitro'n agos a chyfeirio os yn briodol
  • Cynrychioli'r coleg mewn digwyddiadau, rhwydweithiau a chyfarfodydd, pan fo'n ofynnol.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster lefel 3 neu gyfwerth
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Gallu defnyddio ystod o Systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, Pecynnau teilwredig a rhaglenni sy'n seiliedig ar gwmwl
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i deithio'n rheolaidd ar draws amryfal gyrchfannau yn Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau
Dymunol:
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • TAR
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sydd yn dangos ymgysylltiad â gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion y diwydiant, cynhyrchion a chyfarpar
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein