MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £9,953 - £10,917 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Peirianneg - Awyrennol & Peirianneg Cynnal a Chadw
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £9,953 - £10,917 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae Adran Beirianneg Coleg Menai yn adran hynod lwyddiannus, sy'n dechnolegol ddatblygedig ac sy'n edrych ymlaen yn flaengar, sy'n cynnig cyrsiau ar draws ystod o ddisgyblaethau a lefelau, o Lefel 1 Sylfaen i Addysg Uwch Lefel 5.Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac o fewn cyfleusterau a gweithdai modern. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi'i hyfforddi a'i gymhwyso'n addas i ymuno â'r Adran a'n cynorthwyo i addysgu a hyfforddi gweithlu'r dyfodol ar gyfer Ynys Môn a thu hwnt.
Rydym yn edrych i benodi unigolyn brwdfrydig, trefnus ac ymroddedig sydd â phrofiad cryf yn maes Peirianneg Awyrenneg. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o arddangos sgiliau ymarferol ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/004/26
Cyflog
£9,953 - £10,917 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
11 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
05 Hyd 2026
12:00 YH(Ganol dydd)