MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Hafan y Mor

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942

Enw'r swydd: Athro/ Athrawes Dosbarth

Cyfeirnod y swydd:

Dyddiad cau ymgeisio: Dydd Iau 8fed Hydref

Dyddiad cyfweld: 21ain Hydref

Lleoliad: Ysgol Hafan y Môr

Cyflog: £34,912 - £53,760

Disgrifiad o'r swydd: Athro/ Athrawes yn eisiau ar gyfer tymor y Gwanwyn 2027

Swydd athro / athrawes cyfnod allweddol 2 am 32.5 awr yr wythnos yw'r swydd hon.

Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol am benodi athro brwd ac egniol i ymuno a'n tîm cadarn a brwdfrydig

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Arddangos safonau iaith rhagorol ac yn medru arwain ar feysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru.
  • Frwdfrydig, gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad disgyblion;
  • Ymarferydd dosbarth gwych sy'n ymgysylltu â phob plentyn;
  • Gwbl ymrwymedig i adeiladu a gweithredu gweledigaeth gyffrous y genhadaeth genedlaethol a'r Cwricwlwm i Gymru;
  • Arddangos sgiliau rhyngbersonol gwych;
  • Dangos ymroddiad i hyrwyddo tegwch ac ethos cynhwysol.
Mae Ysgol Hafan y Môr, yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar, sy'n ymrwymo i gynnig gofal rhagorol i'n dysgwyr a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddatblygu i'w lawn botensial a ffynnu o fewn diwylliant ysgol Gymraeg cariadus, digidol a chefnogol.

Fel aelod o dȋm staff Ysgol Hafan y Môr, byddwch yn cael y manteision uniongyrchol o ymuno â thîm staff ymroddedig, cydweithredol a chyfeillgar ynghyd â chyfleoedd i gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Plant ac Ysgolion Sir Benfro. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn. Ategir hyn gan ethos cyffredinol pob ysgol.

Mae'r swydd hon yn destun archwiliad datgelu gan y DBS.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol. Os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01834 843 248 i wneud apwyntiad gyda'r Pennaeth.

Gofynnwn fod pob ymgeisydd yn cyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio mor fuan a phosibl ar 01437 776358 os gwelwch yn dda.

Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.

Sgiliau Iaith Gymraeg yn HANFODOL.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Buddion i Weithwyr

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.