MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

(Ymgeiswyr mewnol yn unig)

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3928

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn

Dyddiad gorffen y contract:

31 Gorffennaf 2027

Lleoliad:

Llanelli

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

32 awr ac 30 munudau

Dewch i ymuno â'n tîm

Dewch i Ymuno â'n Tîm

Mae Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgol Gymraeg Ffwrnes ac Ysgol Gymunedol Trimsaran yn chwilio am athro neu athrawes eithriadol, frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm proffesiynol a chefnogol fel Athro/Athrawes Cam Cynnydd 1 ar sail dros dro i gyflenwi cyfnod mamolaeth. Bydd y swydd wedi'i lleoli yn Ysgol Gymraeg Ffwrnes. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy'n rhoi plant wrth galon popeth a wnawn ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg Gymraeg o'r safon uchaf.

Mae ein ffederasiwn yn cynnwys dwy ysgol unigryw sy'n gweithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu profiadau dysgu cyfoethog, perthnasol ac ysbrydoledig i bob dysgwr. Rydym yn falch o'n diwylliant o gydweithio, ymddiriedaeth a datblygiad proffesiynol parhaus, gyda staff sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant. [

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chymuned ddysgu lle mae chwilfrydedd, creadigrwydd, lles a datblygiad pob plentyn yn cael eu gwerthfawrogi. Byddant yn cyfrannu at ddarparu profiadau dysgu ysgogol sy'n cefnogi plant i ddatblygu fel dysgwyr uchelgeisiol, galluog a hyderus.

Rydym yn Chwilio am Rywun Sydd:

• Yn angerddol am addysg gynnar a datblygiad plant Cam Cynnydd 1

• Yn meddu ar ddealltwriaeth gref o Gwricwlwm i Gymru

• Yn gallu darparu profiadau dysgu creadigol, ymgysylltiol ac ystyrlon

• Yn ymrwymedig i sicrhau safonau uchel o gynnydd a lles i bob dysgwr

• Yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a chydweithwyr

• Yn awyddus i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol a'r ffederasiwn

• Yn gwerthfawrogi'r Gymraeg, diwylliant Cymru a hunaniaeth Gymreig ein hysgolion.

Mae ein hysgolion yn falch o'u hunaniaeth Gymreig ac o'u hymrwymiad i ddarparu addysg Gymraeg o safon uchel. O ganlyniad, mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu addysgu, cyfathrebu ac adeiladu perthnasoedd proffesiynol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam Ymuno â Ni?

• Ffederasiwn uchelgeisiol a blaengar gyda gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol

• Diwylliant cryf o gydweithio a chefnogaeth broffesiynol

• Cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhannu arferion effeithiol

• Staff ymroddedig a chefnogol sy'n angerddol am addysg Gymraeg

• Dysgwyr brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu ac yn cyfrannu'n weithgar at fywyd yr ysgol

• Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a'u teuluoedd.

Ysbrydoli. Meithrin. Datblygu.

Os ydych yn athro neu athrawes sy'n angerddol am addysg Gymraeg ac yn awyddus i ymuno â thîm cyfeillgar, cefnogol ac uchelgeisiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cysylltwch â Mr Steffan Jones ar 01554 758589

Disgrifiad Swydd:

Athro - Athrawes Cyfnod Mamolaeth bilingual.pdf - 247KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 04/10/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.

Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.