MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Rhaglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol, Sylfaen a Dechrau Newydd
Coleg Sir Gar
Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
Darlithydd Rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol, Sylfaen a Dechrau NewyddApplication Deadline: 29 September 2026
Department: SBA, Dechrau Newydd, Sylfaen a Mynediad
Employment Type: Llawn Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm:
Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
DescriptionYmunwch â'n tîm ymroddedig sy'n cefnogi dysgwyr ar draws rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol a Dysgu Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, creadigol, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu a chefnogaeth rhagorol.
Gan weithio mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol, byddwch yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a'u hannibyniaeth, gan gyfrannu at eu profiad coleg ehangach trwy diwtorialau a chyfleoedd allgyrsiol.
Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni Mynediad a Sylfaen wedi'u lleoli ar ein Campws yn Rhydaman, gyda rhywfaint o ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ar Gampws y Graig ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau dysgwyr ac wedi ymrwymo i ragoriaeth, arloesedd a gwelliant parhaus, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd â'r gwaith o addysgu ac ymgysylltu â dysgwyr o fewn rhaglen heb ei hachredu yn seiliedig ar ddull RARPA. Nodi a mynd i'r afael ag anghenion unigol dysgwyr ar draws prif bileri'r rhaglen, gan gynnwys cyflogadwyedd, iechyd a lles, cynhwysiant cymunedol, byw'n annibynnol, a chyfathrebu a llythrennedd; Mae'r rhaglenni o fewn y meysydd cwricwlwm hefyd yn ymgorffori cyfathrebu, rhifedd a datblygu ymwybyddiaeth ddigidol, gan hyrwyddo hyder, sgiliau ac annibyniaeth dysgwyr trwy raglen wythnosol strwythuredig o weithgareddau a chyfleoedd dysgu;
- Darparu cyfleoedd a fydd yn gwella ac yn cyfoethogi profiad y dysgwr yn ogystal â hyrwyddo sgiliau byw'n annibynnol a chodi dyheadau i ddysgwyr lefel Mynediad;
- Bod yn gyfrifol am gyflwyno ac asesu anghenion a gofynion dysgwyr er mwyn iddynt ymgysylltu'n llwyr â'u hastudiaethau;
- Bod yn gyfrifol am osod a monitro cynnydd targedau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyflwyniad ac asesiad ystod o weithgareddau ar raglenni Lefel Mynediad;
- Bod yn arweinydd rhaglen/tiwtor cwrs ar gyfer grŵp dynodedig;
- Datblygu adnoddau sy'n gallu cefnogi a gwella'r cyflwyniad uchod;
- Ymwneud â phob agwedd ar systemau rheoli ansawdd y gyfadran gan gynnwys monitro ac olrhain targedau unigol, dilysu gwaith asesedig yn fewnol a'i drawsfarcio a rheoli data;
- Cyfrannu at ddatblygiadau cwricwlwm pellach o fewn y rhaglenni dysgu Lefel Mynediad a Sylfaen.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg/Mathemateg o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus, priodol
- L1 - L3 Trin Gwallr
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad diwydiannol/masnachol perthnasol
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Cymhwyster aseswr
- Dyfarniad L4 mewn Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Gallu gyrru bws mini'r coleg
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau pro rata, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein