MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,582 - £27,120
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Derbyniadau CC/3197

Coleg Cambria

Cyflog: £26,582 - £27,120

Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Derbyniadau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gytundeb: Parhaol, Rhan Amser (cytundeb 0.6, 22.2 awr yr wythnos ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener)

Cyflog: £26,582 - £27,120 (pro rata)

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Derbyniadau ar ein Safle Glannau Dyfrdwy.

Fel Cynorthwyydd Derbyniadau byddwch yn helpu i roi cymorth o'r radd flaenaf i wasanaeth derbyniadau'r coleg. Prif swyddogaeth y rôl yw darparu profiad ymgeiswyr a gwasanaeth derbyniadau Coleg o'r radd flaenaf, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n arwain y sector ac sy'n deg ac yn dryloyw.

Bydd dyletswyddau'r Cynorthwyydd Derbyniadau yn cynnwys helpu gyda phrosesu a gwirio pob ffurflen gais myfyrwyr (papur ac ar-lein) o fewn yr amserlenni penodedig. Ymateb yn briodol ac yn amserol i ymholiadau, galwadau ffôn, negeseuon testun, e-byst a Sgwrs Fyw. Datblygu offer a gwasanaethau technolegol sy'n gwella lefelau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu â dysgwyr yn y ffordd fodern y maent wedi arfer â hi.

Gofynion Hanfodol
  • Lefel 3 NVQ mewn Gweinyddu Busnes
  • Darparu cymorth swyddfa i'r tîm Derbyniadau ar gyfer holl safleoedd y coleg
  • 4 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg a Mathemateg
  • Trefnus ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol
  • Gallu cefnogi anghenion dysgwyr a gweithwyr y coleg
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol dros y ffôn, e-bost, sgwrs fyw a thestun
  • Agwedd hyblyg a'r gallu i feddwl yn y fan a'r lle
  • Agwedd dda dros y ffôn
  • Prydlon, trefnus, a deall pwysigrwydd rheoli amser yn dda

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i godi proffil yr iaith Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'n Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn ac fel rhan o hyn, mae'r Coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion a nodwyd fel rhai 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drylwyr. Gofynnir am Ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus sy'n cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n llenwi eich ffurflen gais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig