MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Grade 4 - £26,847 - £27,274 pro rata
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 4 - £26,847 - £27,274 pro rata
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2Dwy swydd ar gael
27.5 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig
Contract am gyfnod penodol tan Awst 2027
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, wedi'i lleoli mewn ystafell ddosbarth neu leoliad sy'n meithrin gallu, gan ddarparu cymorth un-i-un i ddisgybl. Swydd am gyfnod penodol yw hon tan Awst 2027, neu nes bod y disgybl yn gadael yr ysgol neu nad oes angen y cymorth ychwanegol mwyach, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth, Stephen Thomas/Suzanne Williams.
E-bost: Head.MilfordPrimary@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01646 693861 / 01646 692705
Dyddiad cau: 30 Medi 2026
Byddwch yn darparu cymorth i ddisgyblion, gan weithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth neu staff uwch. Bydd hynny'n digwydd ar ffurf cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth trwy gymryd rhan mewn gwersi yn y dosbarth/mewn grwpiau/unigol. Disgwylir i chi hefyd gynorthwyo â'r gwaith o baratoi deunyddiau ac arddangosiadau, tacluso adnoddau yn ôl y gofyn, a chyfrannu at gyflwyno cynlluniau dysgu unigol o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth.
Bydd angen i chi roi sylw i anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, hylendid, cymorth cyntaf a lles. Bydd gofyn i chi hefyd oruchwylio a chefnogi disgyblion gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at ddysgu, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig. Bydd gofyn i chi annog disgyblion i ryngweithio ag eraill mewn gweithgareddau a'u hannog i weithredu'n annibynnol ac ymddwyn mewn ffordd briodol.
Mae addysg hyd at safon dda a dealltwriaeth o anghenion a hawliau plant / pobl ifanc, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn hanfodol i'r rôl hon.
Mae potensial enfawr i gamu ymlaen ar hyd llwybr gyrfa cyffrous mewn addysg, a gwneud cynnydd o ran eich datblygiad proffesiynol.
Swydd am gyfnod penodol yw hon, sy'n gysylltiedig â chymorth un-i-un i blentyn. Bydd y contract yn dod i ben ar 31 Awst 2027 pan nad oes angen y cymorth ar y plentyn mwyach, neu pan fydd yn gadael yr ysgol, pa un bynnag sydd gyntaf.
Gradd 4 - £26,847 am 27.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £17,527.55 pro rata, gan gynyddu i 46.8 wythnos a £17,910.25 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.