MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Gradd 7 - £32,061 - £35,412
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 7 - £32,061 - £35,412
Gradd 7 | Cyfarwyddiaeth Addysg - Ymgysylltu a Chymunedau, Sir BenfroGwneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Magu Plant angerddol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm, gan gefnogi teuluoedd trwy brosiect wedi'i dargedu i gefnogi ysgolion uwchradd yn y sir.
Mae'r rôl werth chweil hon yn canolbwyntio ar helpu rhieni a gofalwyr i oresgyn rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb, ymddygiad, ymgysylltiad a llesiant eu plant. Gan weithio fel rhan o dîm amlasiantaeth, byddwch yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i deuluoedd, gan eu grymuso i feithrin hyder, gwydnwch a pherthnasoedd cryfach sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu.
Ynglŷn â'r rôl
Fel Gweithiwr Cymorth Magu Plant, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Darparu cymorth magu plant wedi'i deilwra a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.
- Gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd i oresgyn rhwystrau i addysg ac ymgysylltiad.
- Cydlynu cefnogaeth gydag ysgolion, swyddogion lles addysg, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Rheoli atgyfeiriadau, cynnal cofnodion a chyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar y canlynol:
- Cymhwyster NVQ Lefel 3 (neu uwch) mewn pwnc perthnasol.
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf.
- Trwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd.
- Bydd sgiliau iaith Gymraeg a gwybodaeth am Weithdrefnau Diogelu Cymru a Chodau Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru yn fanteisiol.
Beth fyddwch chi'n ei gynnig
Byddwch yn empathig, yn wydn ac yn frwdfrydig drwy helpu teuluoedd i gyflawni newid cadarnhaol. Byddwch yn hyderus yn gweithio gyda theuluoedd sy'n wynebu heriau cymhleth ac yn fedrus wrth adeiladu perthnasoedd ymddiriedus sy'n cefnogi gwelliant parhaol.
Trefniadau gwaith
Mae hon yn rôl amrywiol sy'n cynnwys y canlynol:
- Gweithio yn y swyddfa ac yn y gymuned.
- Ymweliadau cartref a gweithio ar eich pen eich hun lle bo'n briodol.
- Mynychu cyfarfodydd gydag asiantaethau partner.
- Cyflwyno rhaglenni magu plant a sesiynau cymorth wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Sir Benfro. Drwy ymyrraeth gynnar, gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y teulu, byddwch yn helpu i wneud gwahaniaeth parhaol ym mywydau teuluoedd lleol.
Gwnewch gais heddiw a helpwch i adeiladu teuluoedd cryfach a dyfodol disgleiriach.
Lleoliad: Neuadd y Sir/lleoliadau ysgol/gweithio hybrid
Contract: Tymor penodol (24 mis, gydag estyniad posibl yn amodol ar gyllid)
Dyddiad cau: 01/10/2026
Am ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Leonie Rayner, Arweinydd Polisi ADY a Rheolwr Cymorth Magu Plant
07778 936113 / Leonie.Rayner@pembrokeshire.gov.uk
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.