MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Brynsiencyn,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: 52680.00 - 58136.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 52680.00 - 58136.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithio'n strategol gyda'r uwch dîm arweinyddiaeth a llywodraethwyr i sicrhau bod y lleoliad addysg yn diwallu ei gyfrifoldebau dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg, y Cod Drafft (2018) a Deddf Cydraddoldeb (2010). Cymryd rôl strategol wrth gynllunio a chyflwyno darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Sicrhau fod anghenion plant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu dynodi a'u diwallu'n briodol, eu hannibyniaeth yn cael ei hyrwyddo a'u bod yn cael eu cefnogi i wneud cynnydd da fan lleiaf a chyflawni eu potensial llawn. Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg a Chod Drafft 2018 a chefnogi cyflwyno proses drawsnewid AAA i ADY. Cefnogi gwella ysgolion, datblygiad proffesiynol a dysgu.

Amlinelli'r cyfrifoldebau a dyletswyddau proffesiynol yn y Ddogfen Tâl ac Amodau Cyflogaeth Athrawon (Cymru).

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Dyddiad cychwyn: 2 Tachwedd 2026, neu cyn gynted a sy'n phosib yn dilyn hynny.

Mae'r gwasanaeth yn fodloni ystyried ceisiadau ar sail secondiad, gan dibynnu ar gytundeb rheolwr presennol y ceisydd llwyddiannus.

Oriau: Llawn Amser

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Gwion Clarke

Rhif ff ô n: 01248 430457

Cyfeiriad e-bost: 6602136_pennaeth.brynsiencyn@hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Brynsiencyn, Brynsiencyn, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6HZ

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener , 18 Medi 2026