MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
Technegydd mewn Adeiladu (Crefftau Gwlyb)Application Deadline: 24 September 2026
Department: Adeiladu
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Penaethiaid Adrannau
Compensation: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
DescriptionRydym yn chwilio am Dechnegydd ymarferol, trefnus a dyfeisgar i ymuno â'n tîm Adeiladu, gan ddarparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar draws ein darpariaeth Crefftau Gwlyb, gyda ffocws penodol ar waith brics a phlastro. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r tîm sy'n cyflwyno cyrsiau Adeiladu drwy sicrhau bod gweithdai, deunyddiau, cyfarpar ac adnoddau yn cael eu paratoi, eu cynnal a'u cadw ac ar gael yn hwylus i gefnogi addysgu a dysgu effeithiol.
Bydd y rôl yn gofyn am ddealltwriaeth dda o ddeunyddiau adeiladu a phrosesau ymarferol, ynghyd â'r gallu i weithredu a rheoli ystod o offer, cyfarpar a pheiriannau gweithdy yn ddiogel. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyfrannu at reoli deunyddiau a stoc o ddydd i ddydd, gan gynnwys derbyn nwyddau, cynnal lefelau stoc priodol, cynorthwyo gyda'r gwaith o brynu ac archebu, a sicrhau bod adnoddau'n cael eu storio'n ddiogel ac yn effeithlon. Mae sgiliau TG da a'r gallu i ddefnyddio systemau cyfrifiadurol ar gyfer archebu, rheoli stoc, cadw cofnodion a gwaith gweinyddol cyffredinol yn hanfodol.
Bydd y rôl wedi'i lleoli'n bennaf ar ein Campws yn Rhydaman a'r Ganolfan VSC yn Llanelli, wrth hefyd gefnogi gofynion technegol ehangach y Maes Cwricwlwm a chyfrannu at ddatblygu amgylchedd dysgu effeithlon, diogel a threfnus.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
- Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
- Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
- Cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais; peiriannau coed a pheiriannau a chyfarpar statig a chludadwy eraill yn ymwneud ag adeiladu. Derbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen;
- Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu;
- Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
- Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
- Darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill;
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs;
- Pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
- Cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
- Cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- Cymhwyster Lefel 2/3 o leiaf mewn maes sy'n gysylltiedig â chrefft
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Y gallu i weithio'n hyblyg
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach
- Bod yn gymwys i ddefnyddio a chynnal a chadw y peiriannau canlynol: Cymysgu agregau, a chynnal a chadw peiriannau ac offer statig a chludadwy sy'n ymwneud â'r grefft.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein