MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cyfreithiol,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £36,981 - £39,442
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £36,981 - £39,442
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Cydlynydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd
Lleoliad: Iâl a Ffordd y Bers
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £36,981 - £39,442
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Gydlynydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd i ymuno â'n tîm ar safleoedd Iâl a Ffordd y Bers.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Choleg Cambria fel rhan o'r tîm Llyfrgell a Sgiliau Academaidd. Rydym yn edrych i recriwtio rheolwr atebol gyda phrofiad profedig o arwain tîm i ddarparu profiad eithriadol i gwsmeriaid. Bydd ysgogi a datblygu eich tîm trwy reolaeth atebol gadarn yn allweddol i sicrhau bod y gwasanaeth Llyfrgell a Sgiliau Academaidd yn cyfrannu at brofiad siwrnai dysgwr rhagorol wrth astudio yng Ngholeg Cambria. Mae sgiliau rheoli atebol cryf yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, a bydd cyflawni effaith a chanlyniadau llwyddiannus yn faes cyfrifoldeb allweddol.
Wedi'ch lleoli mewn amgylchedd llyfrgell brysur, byddwch yn arwain tîm ymroddedig i ddarparu gwasanaeth llyfrgell sy'n cynnwys cefnogaeth grŵp ac 1:1 i ystod amrywiol o ddysgwyr, gyda ffocws sylfaenol ar alluogi dysgwyr i lwyddo trwy ddatblygu sgiliau academaidd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn sicrhau bod amgylcheddau'r llyfrgell yn gweithredu'n dda gan gynnig gofod astudio a chymdeithasu croesawgar a phriodol i ddysgwyr sy'n cwmpasu ethos Coleg Cambria. Gyda chefndir a phrofiad cryf o gynllunio a darparu cefnogaeth mewn cyd-destun addysgol, byddwch mewn cyswllt agos â staff cwricwlwm a chymorth coleg i hyrwyddo, nodi a datblygu strategaethau ymyrraeth sy'n creu canlyniadau cadarnhaol. Hefyd trwy gydweithrediad agos ag adrannau AU allweddol, byddwch yn datblygu a chyflwyno dull strategol o ddarparu arweiniad ar sgiliau astudio academaidd i'n carfanau AU i wella eu profiad prifysgol ac i'w cefnogi yn eu llwyddiant.
Drwy gaffael, hyrwyddo a defnyddio cynnwys dysgu digidol a thechnoleg sy'n canolbwyntio ar addysg, byddwch yn darparu cynnwys cyfoes a pherthnasol ar draws ystod eang o feysydd cwricwlwm. Mae meddu ar ymwybyddiaeth ariannol o brosesau monitro cyllideb a phrynu yn rhan o'ch cyfrifoldebau rheoli atebol ac mae meithrin perthnasoedd rhagorol â staff a myfyrwyr yn hanfodol i weithredu amcanion y gwasanaeth.
Os ydych chi'n angerddol am drawsnewid bywydau pobl ifanc a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg, yna rydym eisiau clywed gennych chi.
Gofynion Hanfodol
- Addysg at Lefel Gradd
- Profiad o reoli, arwain, datblygu ac ysgogi tîm
- Profiad y gellir ei brofi o gefnogi dysgwyr mewn cyd-destun addysgol
- Profiad o gyflwyno hyfforddiant a sesiynau cymorth deniadol
- Gwybodaeth am ddulliau dysgu, strategaethau a gwahaniaethu i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol
- Cyfathrebwr da sy'n gallu meithrin perthnasau proffesiynol positif gydag ystod o randdeiliaid
- Defnydd effeithiol o dechnolegau i gefnogi dysgu gan gynnwys MS Office neu Google a defnydd arloesol o raglenni Addysg a Thechnoleg eraill
- Lefel dda o sgiliau llythrennedd, llythrennedd digidol a rhifedd
- Byddwch yn ymarferydd profiadol gyda sgiliau a galluoedd personol rhagorol gan gynnwys gwydnwch a threfniadaeth.
- Bydd eich egni a'ch brwdfrydedd yn ysgogi tîm i ddarparu profiad dysgu rhagorol a fydd yn grymuso ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial fel rhan o amcanion ehangach y gwasanaeth.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd benodol hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'n Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.
Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydym yn adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac fe'i dosbarthir fel gweithgaredd rheoleiddiedig. Felly mae'n gofyn am wiriad DBS Manwl gyda Rhestr Waharddedig, a rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd ac euogfarn, gan gynnwys rhai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgeliad yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg, fodd bynnag efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n llenwi eich ffurflen gais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig