MANYLION.
  • Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £26102 - £28266
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cymorth Dysgu (SBA)

Y Coleg Merthyr Tudful

Cyflog: £26102 - £28266

Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn falch i gynnig cyfle i ymuno a'n Tîm Sgiliau Byw Annibynnol (SBA) rhagweithiol a blaengar fel Gweithiwr Cymorth Dysgu.

Mae hon yn rôl gyffrous a gwobrwyol yn cefnogi dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac anableddau i gael mynediad at ddysgu, datblygu annibyniaeth, adeiladu hyder a chyflawni eu targedau a dyheadau unigol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n gydweithredol gyda dysgwyr, staff addysgu a chefnogaeth, rhieni ac asiantaethau allanol i ddarparu cefnogaeth sydd wedi'i chanolbwyntio ar y person, yn gyson ac wedi'i phersonoli, o fewn a thu hwnt i'r ystafell dosbarth.

Rydym yn chwilio am unigolyn amyneddgar, hyblyg a brwdfrydig sy'n ymrwymedig i hybu cynhwysiant, lles dysgwyr a chanlyniadau cadarnhaol.

Mae'r swydd yn gytundeb parhaol, ffracsiynol, tymhorol yn unig h.y. 35 awr yr wythnos x 36 wythnos y flwyddyn

Mae gwiriad DBS yn ofyniad y swydd hon.

Rydym yn disgwyl staff i hybu ein gwerthoedd coleg byw: Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol.

Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle rydym nid yn unig yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliannau a chefndiroedd.

Os gwelwch yn dda, ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig.

Dyddiad cau am geisiadau: 23/09/2026