MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog 5\/P02 (points 25 - 41) £30,165 - £49,061 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 5\/P02 (points 25 - 41) £30,165 - £49,061 y flwyddyn
Hyfforddwr AdeiladwaithLlawn Amser a Pharhaol
Graddfa Gyflog 5/P02 (points 25 - 41) £30,165 - £49,061 y flwyddyn
Cyflog yn dibynnu ar gymwysterau:
Dim TAQA: Scale 5 (£30,165 to £33,119 y flwyddyn)
TAQA dim TAR: Scale 6 i SO1 (£34,204 - £40,503 y flwyddyn)
TAQA a TAR: SO2 i PO2 (£41,729 - £49,061 y flwyddyn)
Ydych chi'n angerddol am waith brics neu waith tir ac yn awyddus i ysbrydoli dysgwyr? Ymunwch â'n tîm deinamig yng Ngholeg Penybont!
Diben y swydd: Cynllunio, datblygu, cyflwyno ac asesu cymwysterau priodol, h.y. Gwaith Brics, Gwaith Tir a Aml-sgil, i fyny at Lefel 3.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth am gymwysterau Adeiladwaith - Gwaith Brics neu Waith Tir perthnasol ac am weithio mewn amgylchedd Gwaith Brics diwydiannol. Byddwch wedi'ch addysgu i o leiaf NVQ Lefel 3 neu safon gyfwerth mewn Gwaith Brics neu Waith Tir, ynghyd â TAQA Lefel 3 (neu gyfwerth), neu'n barod i weithio tuag at hyn. Bydd gennych y gallu i gysylltu ag ystod amrywiol o ddysgwyr ac ysbrydoli unigolion o bob cefndir i gyflawni eu potensial llawn.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.