MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £13,193 - £25,965 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Trin Gwallt 0.5

Coleg Sir Gar

Cyflog: £13,193 - £25,965 / blwyddyn

Darlithydd mewn Trin Gwallt 0.5
Application Deadline: 21 September 2026

Department: Gwallt a harddwch

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Reporting To: Tîm Rheoli'r Maes Cwricwlwm

Compensation: £13,193 - £25,965 / blwyddyn

DescriptionRydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol Trin Gwallt sy'n frwdfrydig iawn ac yn arloesol i ymuno â'n tîm fel darlithydd rhan-amser, i gyflwyno profiadau dysgu diddorol, perthnasol i'r diwydiant i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol trin gwallt.

Gan weithio yn ein cyfleusterau salon masnachol o safon y diwydiant, byddwch yn chwarae rôl allweddol o ran datblygu sgiliau ymarferol dysgwyr, eu gwybodaeth dechnegol a'u hymddygiadau proffesiynol ar draws ystod o dechnegau trin gwallt. Byddwch yn defnyddio dulliau creadigol ac arloesol i addysgu, dysgu ac asesu, gan gynnwys technolegau digidol a thueddiadau cyfredol y diwydiant er mwyn sicrhau bod dysgwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer cyflogaeth a dilyniant o fewn y sector.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag adran fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi cydweithio, datblygiad proffesiynol a chysylltiadau cryf â'r diwydiant trin gwallt. Byddwch yn cael y cyfle i fentora ac ysbrydoli dysgwyr, cyfrannu at weithdai'r diwydiant, dosbarthiadau meistr a chystadlaethau, a chefnogi gweithrediad effeithiol ein salonau masnachol.

Drwy addysgu o ansawdd uchel a ffocws cryf ar safonau proffesiynol, gwasanaeth cwsmer ac ymwybyddiaeth fasnachol, byddwch yn helpu dysgwyr i ddatblygu'r hyder, y creadigrwydd a'r arbenigedd technegol sy'n ofynnol ar gyfer symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth, prentisiaethau neu astudiaeth bellach o fewn y diwydiant trin gwallt.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau VTCT mewn Trin Gwallt o Lefel 1 i Lefel 3, yn y Coleg a, lle bo angen, mewn ysgolion partner lleol hefyd
  • Gweithio ar y cyd â rheolwyr a staff derbynfa'r salonau i sicrhau gweithrediad effeithiol salonau masnachol y Coleg, gan ddarparu cyfleoedd priodol i ddysgwyr ymgymryd ag asesiadau ymarferol a datblygu profiad dilys o'r diwydiant. Cyfrannu at ddatblygu cronfa gleientiaid fywiog a chynaliadwy yn ariannol drwy osod targedau effeithiol, gwaith hyrwyddo, gweithgarwch adwerthu a chymhellion gwerthu dysgwyr
  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr Gwallt a Harddwch, rheolwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid y diwydiant i ddatblygu rhaglen amrywiol o weithdai cysylltiedig â'r diwydiant, dangosiadau a dosbarthiadau meistr, gan sicrhau y bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ac arfer diwydiannol cyfredol
  • Arddangos arloesedd wrth gynllunio, cyflwyno ac asesu elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwricwlwm, gan wneud defnydd effeithiol o dechnolegau digidol a dulliau newydd sy'n datblygu o fewn maes Trin Gwallt ac arferion y salon
  • Nodi, paratoi a mentora dysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan fod yn bresennol a chefnogi dysgwyr lle bo angen

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hanfodol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg/Mathemateg o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus, priodol
  • L1 - L3 Trin Gwallr
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Profiad diwydiannol/masnachol perthnasol
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol
  • Cymhwyster aseswr
  • Dyfarniad L4 mewn Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Gallu gyrru bws mini'r coleg

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau pro rata, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein