MANYLION.
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Addysgol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn

Cynorthwyydd Cymorth Addysgol
Application Deadline: 18 September 2026

Department: Cymorth Dysgu

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Rhydaman

Reporting To: Cydlynydd Cymorth Dysgu

Compensation: £10,087 - £10,187 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Prif bwrpas gweithio o fewn y Tîm Mynediad Sgiliau Byw'n Annibynnol yw hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi dysgwyr sydd ag ystod o anghenion o natur gorfforol neu ddysgu. Mae gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd y dysgwyr, ochr yn ochr â sgiliau byw'n annibynnol, o bwys allweddol i'w dilyniant.

Prif bwrpas y swydd yw darparu cymorth i fyfyrwyr sydd ag ystod o anawsterau dysgu ac anableddau.

Mae'r swydd yn un heriol ac yn rhoi boddhad mawr hefyd. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio fel rhan o dîm a chyfathrebu mewn gwahanol ffurfiau ac ar amrywiol lefelau.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Cynorthwyydd Cymorth Addysgol:
  • darparu cymorth meddygol a chymorth gofal personol i fyfyrwyr unigol - gyda chanllawiau a hyfforddiant priodol, yn ôl cyfarwyddyd aelod o'r tîm rheoli;
  • darparu cymorth gofal cathetr i ddysgwr gydag anabledd corfforol;
  • helpu'r myfyriwr gyda threfnu ffeiliau;
  • cynorthwyo'r myfyriwr gyda rheoli amser a threfniadaeth bersonol;
  • annog a chefnogi'r myfyriwr i ddatblygu ystod o sgiliau casglu gwybodaeth;
  • darparu cymorth i'r myfyriwr i ddeall cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig;
  • mynd gydag unigolion/grwpiau bach ar deithiau preswyl ac ymweliadau ble bo angen;
  • annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau TGCh da er mwyn cyflwyno aseiniadau;
  • darparu goruchwyliaeth amser egwyl a/neu amser cinio; yn ôl y gofyn neu yn ôl cyfarwyddyd aelod o'r tîm rheoli;
  • darparu cymorth un-i-un neu gymorth cyffredinol yn y dosbarth, yn seiliedig ar angen y myfyriwr a chydweddu sgiliau;
  • trawsgrifio deunyddiau i fformatau hygyrch pan fo angen;
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd Cneu Lefel O cyfwerth
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (Os nad oes gennych gymhwyster mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn cyn gynted â phosibl)
  • Codi a Chario (Os nad oes gennych gymhwyster mewn codi a chario,
    bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn cyn gynted â phosibl)
  • Profiad perthnasol o weithio gydaunigolion ag anawsterau dysgu a/neu anableddau
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol
  • Tystysgrif Diogelwch Bwyd (Os nad oes gennych gymhwyster mewn Diogelwch Bwyd, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn cyn gynted â phosibl)
  • Cymhwyster Iaith Arwyddion Prydainneu unrhyw gymhwyster cyfathrebu arall
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein