MANYLION.
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Coleg Sir Gar

Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
Application Deadline: 18 September 2026

Department: Cymorth Dysgu

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Rhydaman

Reporting To: Cydlynydd Cymorth Dysgu

Compensation: £10,087 - £10,187 / blwyddyn

DescriptionRydyn ni'n chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu ymroddedig sy'n canolbwyntio ar y dysgwyr i ymuno â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae'r rôl hon yn ganolog i gefnogi myfyrwyr sydd ag ystod o anawsterau dysgu, anableddau ac anghenion cymorth ychwanegol, gan eu helpu i gael mynediad i ddysgu, adeiladu hyder a datblygu annibyniaeth.

Trwy weithio'n agos gyda dysgwyr a thimau cwrs, byddwch yn darparu cymorth unigol, rhanedig neu gymorth grŵp cytunedig o fewn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi hefyd. Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys helpu dysgwyr gyda gwaith trefnu, rheoli amser, deall cyfarwyddiadau, datblygu sgiliau astudio a sgiliau TG, a'u helpu i gyflwyno eu gwaith i'r safon ofynnol. Yn ogystal byddwch yn cefnogi dysgwyr yn ystod cyfnodau astudio preifat a, ble bo'n ofynnol, cynorthwyo gydag anghenion corfforol, goruchwylio ac ymweliadau addysgol.

Fel rhan o'r tîm Cymorth Dysgu ehangach, byddwch yn cyfrannu at weithgareddau gwella ansawdd, cadw cofnodion cywir, cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, ac yn ategu ymrwymiad y Coleg i gydraddoldeb, cynhwysiant, diogelu a lles dysgwyr. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i rywun sy'n teimlo'n angerddol ynghylch cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn mewn amgylchedd addysg bellach.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu:
  • weithio gyda dysgwyr a thimau cwrs i ddarparu cymorth y cytunwyd arno;
  • cadw cofnodion o waith a wnaed gyda dysgwyr;
  • cymryd rhan mewn prosesau gwella ansawdd;
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus;
  • cynorthwyo dysgwyr i fod yn ddysgwyr mwy hyderus ac annibynnol;
  • helpu myfyrwyr i reoli amser a threfnu eu hunain yn bersonol;
  • helpu myfyrwyr i drefnu eu ffeiliau;
  • annog a chynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu technegau ymchwil da;
  • helpu myfyrwyr i ddeall cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig;
  • helpu gyda phrawf-ddarllen gwaith a rhoi cyngor ynglŷn â gramadeg, sillafu ac atalnodi;
  • cludo a/neu hebrwng unigolion/grwpiau bach ar deithiau preswyl ac ymweliadau ble bo angen;
  • yn achlysurol, goruchwylio yn ystod amser egwyl a/neu dros ginio;
  • rhoi sylw i anghenion corfforol myfyrwyr ble bo angen;
  • darparu cymorth yn ystod cyfnodau astudio preifat;
  • annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau TGCh da er mwyn cyflwyno aseiniadau;
  • trawsgrifio deunyddiau i fformatau hygyrch pan fo angen;
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Cymwysterau Priodol hyd at Lefel 3
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol
  • Cymhwyster Sgiliau Sylfaenol Cynorthwywyr Cymorth Dysgu Lefel 2 (os nad yw'r cymhwyster gennych bydd disgwyl i chi gwblhau'r cwrs o fewn 2 flynedd i gael eich penodi)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (os nad yw'r cymhwyster gennych bydd disgwyl i chi gwblhau'r cwrs o fewn 2 flynedd i gael eich penodi)
  • Profiad perthnasol o weithio gydaphobl ag anawsterau dysgu a/neu anableddau
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein