MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £18,113 - £19,654 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £18,113 - £19,654 / blwyddyn
Anogwr BugeiliolApplication Deadline: 18 September 2026
Department: Diwydiannau Creadigol
Employment Type: Parhaol - Rhan Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Head of Curriculum
Compensation: £18,113 - £19,654 / blwyddyn
DescriptionMae'r coleg yn dymuno penodi Hwylusydd Bugeiliol i ddarparu cymorth ac arweiniad i ddysgwyr ym maes cwricwlwm Cyfryngau Creadigol a Chyfrifiadura.
Bydd gwaith yr Anogwr Bugeiliol yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg. Mae'r rôl yn cynnwys mynd i'r afael â phroblemau a phryderon dysgwyr, hybu diwylliant cadarnhaol a gofalgar, cyflwyno sesiynau datblygiad personol, a gweithio ar y cyd a thîm o Anogwyr Bugeiliol i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol blynyddol.
Ynglŷn â'r RôlFel Anogwr Bugeiliol, byddwch yn gweithio'n agos gyda dysgwyr, staff a phartneriaid allanol i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth fonitro cynnydd, gwella presenoldeb, a chefnogi lles a datblygiad personol myfyrwyr.
Mae'r prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Rheoli grwpiau o ddysgwyr a chyflwyno sesiynau tiwtorial wythnosol
- Darparu cefnogaeth un-i-un, gosod targedau ac adolygiadau cynnydd
- Monitro presenoldeb a rhoi ymyriadau cefnogol ar waith
- Cefnogi dysgwyr gyda'u hanghenion lles, ymddygiad a diogelu
- Cyflwyno sesiynau datblygiad personol a chyflogadwyedd
- Cynorthwyo gyda dilyniant gyrfaol, ceisiadau UCAS, a'r camau nesaf
- Cydweithio â thimau cwricwlwm a gwasanaethau cefnogi
- Annog llais ac ymgysylltiad dysgwyr
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 i 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 i 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- Gradd neu gyfwerth
- Cymwysterau perthnasol ar Lefel 3 neu uwch
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy'n Ystyriol o Drawma
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol
- TAR
- Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
- Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol pobl ifanc
- Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
- Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau (pro rata), ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein