MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog Gweinyddol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,006 - £28,836
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Awst, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

CP i’r Bwrdd Cyfarwyddol

CP i’r Bwrdd Cyfarwyddol

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Personol profiadol ymuno â’n Tîm o Gynorthwywr Personol Adrannol sy’n cefnogi tîm Gweithredol y Coleg. Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a deinamig sydd â phrofiad blaenorol o weithio fel Cynorthwyydd Personol ac sy’n medru defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad wrth weithio yn y tîm.

Yn bennaf, byddwch yn cefnogi’r Cyfarwyddwr AD i gyflawni ei gyfrifoldebau strategol yn effeithiol ac effeithlon, ac felly byddai meddu ar brofiad o fewn amgylchedd AD neu Gyfreithiol yn fuddiol. Byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli ei ddyddiadur a’i negeseuon ac yn paratoi unrhyw ohebiaeth ar ei rhan. Yn ogystal, byddwch yn ei helpu i flaenoriaethu ei waith.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am bortffolio o ddyddiaduron - gosod agenda, gwneud cofnodion, a sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu rhoi ar waith a’u monitro yn ôl y gofyn.

Byddwch yn drefnus, ymarferol, dibynadwy, effeithlon a byddwch yn meddu ar ymagwedd hyblyg tuag at y rôl. Byddwch hefyd yn gweithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o’r tîm Cymorth Gweithredol ehangach i sicrhau bod gwasanaeth cyson yn cael ei ddarparu i bob aelod o’r Tîm gweithredol.

Bydd gennych ddewrder a chymhelliant i ddatrys problemau, a’r gallu i barchu cyfrinachedd bob amser. Bydd gennych sgiliau trefnu a blaenoriaethu gwych a’r gallu i fod yn ddiplomyddol. Yn ogystal, bydd gennych sgiliau cyfathrebu da iawn a’r gallu i ymgysylltu ag ystod eang o rhanddeiliaid.

I drafod y cyfle ymhellach cysylltwch â Tracy Drummond-Govier ar 01792 284059 neu e-bostiwch – tracy.drummond-govier@gcs.ac.uk

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).