MANYLION.
  • Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Trin Gwallt

Coleg Sir Gar

Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

Darlithydd Trin Gwallt
Application Deadline: 17 September 2026

Department: Diwydiannau creadigol a chymhwysol

Employment Type: Rhan Amser

Location: Campws Aberteifi

Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

DescriptionWedi'u lleoli ar gampws Aberteifi caiff ein meysydd fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon y diwydiant sy'n cynnwys salon gwallt a harddwch masnachol.

Mae'r gyfadran yn sicrhau ei bod yn cydweithio i gyflawni gweledigaeth y coleg lle mae gwerthoedd ac ymddygiadau yn greiddiol. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi i'n dysgwyr ac yn cefnogi ein staff ar eu taith addysgu a dysgu lle cânt gyfle i ddatblygu eu haddysgeg.

Mae'r adran Gwallt a Harddwch yn rhedeg rhaglenni bywiog ar gyfer ei dysgwyr er mwyn rhoi dealltwriaeth glir iddynt o'r sector hwn, fel eu bod yn gallu symud ymlaen i fyd gwaith a/neu addysg uwch. Maen nhw'n cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser o Lefel 1 drwodd i Lefel 3 yn ogystal â chyrsiau rhan-amser mewn barbro. Mae gan yr adran gysylltiadau cryf â budd-ddeiliaid sy'n gallu darparu cysylltiadau â diwydiant i'n holl ddysgwyr ar bob lefel o'u dysgu. Mae salon masnachol wedi'i leoli ar y campws ac mae'n rhoi cyfle i'r dysgwyr gael ymdeimlad gwirioneddol o'r diwydiant tra'n cael eu mentora gan ein staff wrth baratoi ar gyfer y diwydiant.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau VTCT mewn Trin Gwallt a Barbro ar L1 drwodd i L3 yn y coleg ac ysgolion partner lleol.
  • Gweithio gyda'r derbynnydd a rheolwyr i sicrhau bod salonau masnachol yn rhedeg yn effeithiol ac i gefnogi asesiadau ymarferol yn ogystal â bod yn broffidiol. Rhaid i hyn hefyd gynnwys gosod targedau a chymhellion gwerthu er mwyn i'r holl ddysgwyr allu eu hyrwyddo i'n cleientiaid. Cefnogi'r derbynnydd wrth adeiladu rhestr gref, broffidiol o gleientiaid.
  • Gweithio gyda chydweithwyr Gwallt a Harddwch, rheolwyr, cyfarwyddwyr a budd-ddeiliaid i sicrhau rhaglen effeithiol i ddysgwyr o weithdai a dosbarthiadau meistr sy'n gysylltiedig â'r diwydiant gan sicrhau bod dysgwyr yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i ymgysylltu â'r diwydiant gwallt a harddwch.
  • Sicrhau arloesedd wrth gynllunio, cyflwyno ac mewn asesiadau yn y gwaith ymarferol a gwaith theori hefyd gan ddefnyddio technoleg ddigidol o fewn y salonau.
  • Paratoi dysgwyr ar gyfer cymryd rhan mewn cystadlaethau yn genedlaethol a rhyngwladol gan fentora dysgwyr drwy'r broses a mynd gyda nhw yn ôl yr angen.
  • Arwain/mynd gyda dysgwyr ar deithiau i amrywiaeth o leoliadau yn unol â gofynion manylebau'r cwrs.
  • Rhannu arfer da i gefnogi DPP o fewn y tîm gwallt a harddwch.
  • Cynllunio a chynnal gweithgareddau sicrhau ansawdd yn effeithiol gan ddilyn y calendr ansawdd o fewn Gwallt a Harddwch.
  • Hyrwyddo cyrsiau cwricwlwm llawn a rhan-amser a salon masnachol i amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid.
  • Cyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hanfodol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg/Mathemateg o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus, priodol
  • L1 - L3 Trin Gwallt a Barbro
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Dymunol
  • Cymhwyster aseswr
  • Dyfarniad L4 mewn Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Gallu gyrru bws mini'r coleg

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein