MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £29,451 - £31,132
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £29,451 - £31,132
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Prif Bobydd a Chef Patisserie
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £29,451 - £31,132
Barod i siapio dyfodol pobi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent coginio?
Ymunwch â Choleg Cambria fel ein Prif Bobydd a Chef Patisserie ar ein safle Iâl bywiog. Gan weithio ochr yn ochr â'n Prif Chef, byddwch chi'n arwain tîm becws pwrpasol, creu eitemau modern ar gyfer ein bwydlen gan ddefnyddio cynhwysion lleol Cymreig, ac yn helpu i yrru ein hestyniad cyfanwerthu ac arlwyo. Mae'r swydd yma yn cynnig cydbwysedd unigryw: y sbarc creadigol a ffocws masnachol y diwydiant lletygarwch, ynghyd â sefydlogrwydd, trefn ragweladwy, a phwrpas amgylchedd addysgol.
Beth Fyddwch Chi'n Ei Wneud
- Arwain cynhyrchu yn y becws: Goruchwylio pobi dyddiol ar gyfer ein siopau coffi, ein prif fwyty, a chontractau masnach cyfanwerthu.
- Dylunio bwydlenni wedi'i hysbrydoli gan Gymru: Creu eitemau patisserie cynaliadwy, modern gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
- Cefnogi twf a digwyddiadau: Helpu i lansio mannau bwyta newydd a danfon bwyd ar gyfer digwyddiadau ar gyfer y coleg a digwyddiadau allanol.
- Ysbrydoli a mentora: Hyfforddi myfyrwyr coginio mewn amgylcheddau cegin ymarferol, gan eu helpu nhw i adeiladu hyder a sgiliau'r diwydiant.
- Gyrru cynhyrchu bwyd: Goruchwylio paratoi bwyd ar draws ein siop goffi patisserie, a'r prif fwyty sef Bwyty Iâl.
- Arwain digwyddiadau a chymryd yr awenau: Helpu i gynnal digwyddiadau allanol a rheoli gweithrediadau bob dydd y gegin pan fydd y Prif Chef i ffwrdd.
Gofynion Hanfodol
- Sgiliau cegin ardderchog ynghyd â sgiliau coginio a phrynu rhagorol.
- Medrus mewn technegau patisserie a phobi.
- Gwybodaeth arbennig am dueddiadau cyfredol mewn bwyd a chynhyrchu bwyd.
- Cymhwyster Hylendid Bwyd Sylfaenol.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg gan gynnwys gyda'r nos yn ôl yr angen dros wythnos waith 7 diwrnod.
Mae gweithio mewn lletygarwch mewn addysg yn cynnig buddion sydd ddim ar gael mewn bwytai arferol:
- Gwyliau Blynyddol Rhagorol: Mwynhewch hyd at 50 diwrnod trwy wyliau blynyddol, gwyliau banc, diwrnodau effeithlonrwydd a gwyliau dewisol.
- Cau Dros y Nadolig: Dim gweithio dros gyfnod y Nadolig! Treuliwch y gwyliau gyda'ch anwyliaid.
- Cydbwysedd Bywyd a Gwaith: Oriau gwaith strwythuredig, rhagweladwy sy'n cyd-fynd ag amserlen weithredol y bwyty.
- Cynllun Pensiwn: Cyrchu rhaglen pensiwn llywodraeth leol.
- Cefnogaeth Llesiant: Cyrchu rhaglenni cymorth i weithwyr am ddim, adnoddau iechyd, a chyfleusterau coleg ar y safle.
- Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf: Y cyfle i siapio bwyty blaenllaw ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch.
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig