MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Llannerch-y-Medd,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Cyfnod Allweddol 2

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy'n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ôl yr amgylchiadau ac yn unol â pholisïau'r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Bydd y swydd yn cychwyn ar 2 Hydref 2026 hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd (Cyflenwi Mamolaeth).

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Ms Ffion Wynn

Rhif ff ô n: 01248 470466

Cyfeiriad e-bost: 6602157_pennaeth.llanerchymedd@Hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Llannerch-Y-Medd, Llannerch-Y-Medd, Ynys Môn, LL71 8DP

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 18 Medi 2026