MANYLION.
  • Lleoliad: Bryncethin Primary School,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L(7) - L(11) £61,198 - £67,531 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Bryncethin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L(7) - L(11) £61,198 - £67,531 y flwyddyn

Angenrheidiol ar gyfer Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosibl

Mae Ysgol Gynradd Bryncethin yn ysgol hapus a chyfeillgar, ystod oedran (3-11).

Mae Llywodraethwyr yr ysgol flaengar hon sy'n gwella yn ceisio penodi Dirprwy Bennaeth uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau arweinyddiaeth, rheoli, a rhyngbersonol rhagorol, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Pennaeth i arwain ac ysbrydoli tîm ymroddedig o staff addysgu a chymorth wrth i'r ysgol barhau â'i thaith o gynnydd a llwyddiant parhaus.

Dylech fod yn:

- ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi cyrhaeddiad a gwella'r ysgol;

- yn frwd dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlwm sy'n galluogi i'r holl blant lwyddo yn eu dysgu;

- unigolyn sy'n meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i symbylu ac ysgogi mentrau drwy ddefnyddio sgiliau'r tîm mawr o staff;

- unigolyn sydd â'r bersonoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gynorthwyo'r pennaeth a'r llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.

Yn yr ysgol rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir am gyfweliad yn cael cyfle i weld yr ysgol.

Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 23 Medi 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 1 Hydref 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 14 and 15 Hydref 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person