MANYLION.
  • Lleoliad: Newtown, All Wales, SY16 2QZ
  • Pwnc: Cynghorydd Gyrfa
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Cau: 20 Medi, 2026 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant

Gyrfa Cymru
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.

Fel cenedl, rydyn ni’n ffynnu wrth hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithlu amrywiol yn arwain at wneud gwell penderfyniadau, mwy o greadigrwydd, timau cryfach a gweithleoedd hapusach – ac yn bwysicaf oll, dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.


Swyddi Gwag – Cynghoryddion Gyrfa/Cynghoryddion Gyrfa dan Hyfforddiant

Swyddi amser llawn (37 awr) yng Ngogledd-ddwyrain Cymru (Sir y Fflint neu Wrecsam) a De Orllewin Cymru, ac un swydd naill ai amser llawn neu ran-amser (4 diwrnod) yng Nghanolbarth Powys.

• Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262), pro rata ar gyfer rhan-amser.
• Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993, pro rata ar gyfer rhan-amser.
• Sgiliau Cymraeg: Hanfodol, amrywiaeth o lefelau sgiliau – sgiliau Hyfedr ar gyfer y swydd yn Gogledd-ddwyrain Cymru, Uwch ar gyfer y swydd yn Canolbarth Powys a Chanolradd ar gyfer y swydd yn Gorllewin Cymru (gweler isod am ragor o esboniad o’r lefelau sgiliau hyn).

Ydych chi'n rhywun sy'n gallu...
• Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
• Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?
• Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?

Fel yr unig sefydliad cenedlaethol sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bob oedran. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr yn y maes addysg tra mae ein Tîm Cymru’n Gweithio yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i ymuno â’r farchnad lafur neu ail-ymuno â hi drwy asesu, cyfarwyddyd a chymorth wedi’i deilwra. Mae ein cynghorwyr yn angerddol dros helpu unigolion i wireddu eu potensial.

Ynglŷn â'r Swyddi:

2 swydd wag yn y Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc:


Lleoliadau: Canolbarth Powys (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Uwch); Gogledd Ddwyrain Cymru - Sir y Fflint neu Wrecsam (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Hyfedr)


Mae'r swyddi hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda'r rhai sydd wedi'u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda'n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.


1 swydd wag yn y Tîm Peripatetig

Lleoliad: De Orllewin Cymru (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Canolradd)

Bydd y rôl hon yn gweithio’n hyblyg ar draws y ddau faes cyflwyno gwasanaeth, sef Gwasanaethau i Bobl Ifanc a Chymru’n Gweithio, gan gefnogi rhanbarth y De Orllewin. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i deithio i sawl lleoliad a dangos diddordeb cryf yn ein hystod lawn o wasanaethau i gwsmeriaid. Bydd gan bob ymgeisydd llwyddiannus leoliad cytundebol penodol. Mae amser teithio y tu hwnt i'r lleoliad hwn yn cyfrif fel oriau gwaith, a bydd costau teithio ychwanegol yn cael eu had-dalu.


Gwybodaeth Gyffredinol

• Rhaid i’n cynghorwyr/rhai dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, yn y DU.
• Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfa feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa (neu gymhwyster cyfatebol) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.
• Rhaid i Gynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) a byddant yn cwblhau’r Diploma Lefel 6 fel rhan o’r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn ofynnol.
• Mae angen Datgeliad DBS Manwl.

Disgrifiadau Lefelau Sgiliau Iaith Gymraeg

Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a chynhyrchu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau, neu drefnu gweithgareddau.

Uwch: Dylech allu dilyn y rhan fwyaf o drafodaethau, cyfrannu’n hyderus mewn sgyrsiau gyda siaradwyr rhugl, a mynegi eich barn yn glir ar ystod o bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith. Byddwch yn deall y rhan fwyaf o ddeunyddiau ysgrifenedig Cymraeg gyda chymorth geiriadur ac yn cynhyrchu adroddiadau byr, adolygiadau a gohebiaeth glir a chywir ar gyfer cynilleidfaoedd mewnol ac allanol.

Hyfedr: Gallwch ddeall yr hyn yr ydych yn ei glywed neu’n ei ddarllen yn rhugl, cyfathrebu’n rhugl ar bynciau cymleth, ac arwain neu gyfrannu at drafodaethau. Gallwch grynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac addasu eich arddull ar gyfer gwahanol gynilleidfaoedd a lleoliadau. Rydych yn medru gweithio ar lefel broffesiynol, gan gyfathrbu trwy amrywiol ddulliau yn y Gymraeg.


Mae disgrifiadau swydd llawn a ffurflenni cais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 20 Medi 2026 (hanner nos)
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu Canolfan Asesu ar un o’r dyddiadau canlynol: 12, 14 neu 19 Hydref 2026 (drwy Microsoft Teams) a mynychu Cyfweliadau: Rhwng 16 a 23 Hydref 2026 (drwy Microsoft Teams)


Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydyn ni’n hyrwyddo gweithle sy'n rhydd o wahaniaethu, gan drin pawb gydag urddas a pharch trwy gydol y broses recriwtio a chyflogaeth.
JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://apply.careerswales.gov.wales/cy/jobs/8287322-cynghoryddion-gyrfa-cynghoryddion-gyrfa-dan-hyfforddiant-cymraeg-hanfodol-dyddiad-cau-20-09-26