MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £19,790 - £38,948 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Cyfrifiadura 0.75

Coleg Sir Gar

Cyflog: £19,790 - £38,948 / blwyddyn

Darlithydd mewn Cyfrifiadura 0.75
Application Deadline: 11 September 2026

Department: Cyfrifiadura

Employment Type: Parhaol - Rhan Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm

Compensation: £19,790 - £38,948 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn awyddus i benodi Darlithydd Cyfrifiadura brwdfrydig, gwybodus, sy'n canolbwyntio ar y dysgwyr i ymuno â'n tîm Cyfrifiadura.

Dyma gyfle cyffrous i ddarlithydd profiadol neu weithiwr proffesiynol ym maes cyfrifiadura sy'n frwd dros ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol digidol a thechnoleg. Byddwch yn cyflwyno addysgu a dysgu diddorol, sy'n gynhwysol ac o ansawdd uchel, gan gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth dechnegol, y sgiliau ymarferol a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaethau neu Addysg Uwch.

Fel Darlithydd mewn Cyfrifiadura, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol, yn arloesol ac yn ymateb i ddatblygiadau o fewn y sector digidol sy'n newid yn gyflym. Byddwch yn cydweithio gyda chydweithwyr, cyflogwyr a phartneriaid yn y diwydiant i roi cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant.

Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
  • Cyflwyno addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel ar draws ystod o raglenni Cyfrifiadura.
  • Cefnogi dysgwyr i gael eu cymwysterau a symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth, prentisiaethau neu astudiaethau pellach ac astudiaethau lefel uwch.
  • Addysgu ar draws meysydd Cyfrifiadura perthnasol, a all gynnwys rhaglennu, seiberddiogelwch, rhwydweithio, datblygu meddalwedd a thechnolegau digidol newydd.
  • Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes Cyfrifiadura a defnyddio hyn i sicrhau bod addysgu a dysgu yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r diwydiant.
  • Datblygu sgiliau ymarferol, sgiliau technegol a sgiliau datrys problemau dysgwyr trwy ddysgu cymhwysol a dysgu sy'n seiliedig ar brosiectau.

Yr hyn bydd ei angen arnochRydyn ni'n chwilio am rywun sy'n ateb y canlynol:
  • Yn meddu ar radd neu gymhwyster lefel uwch cyfatebol mewn Cyfrifiadura neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • Yn meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig, neu sy'n barod i weithio tuag at gymhwyster o'r fath lle bo hynny'n briodol.
  • Yn meddu ar wybodaeth dechnegol gadarn mewn o leiaf un o feysydd Cyfrifiadura.
  • Yn gallu dangos sut y gellir ymgorffori datblygiadau yn y diwydiant a thechnolegau newydd yn effeithiol wrth addysgu a datblygu cwricwlwm.
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, trefniadol a rhyngbersonol cryf.
  • Yn gallu cydweithio â chydweithwyr, ysgolion partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allanol
  • Wedi ymrwymo i safonau uchel o ran profiad dysgwyr, cyflawniad a dilyniant.

Pam Gweithio Gyda NiYng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydyn ni'n frwdfrydig ynghylch creu cyfleoedd, cefnogi ein cymunedau a helpu dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau.

Pan ymunwch â ni, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad cydweithredol a blaengar sy'n gwerthfawrogi arloesedd, cynhwysiant a thwf proffesiynol. Rydyn ni'n ymrwymedig i gefnogi ein staff i ffynnu'n broffesiynol wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Rydyn ni'n cynnig:
  • Cynllun Pensiwn Athrawon gyda chyfraniadau cyflogwr o 28.68%
  • Hawl i wyliau blynyddol hael o 37 diwrnod, ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau cau
  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a dilyniant gyrfa
  • Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Car EV
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol
  • Mynediad at fentrau lles staff a gwasanaethau cymorth
  • Cyfleoedd i gyfrannu at arferion addysgu a dysgu arloesol
  • Cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr a diwydiant
  • Y cyfle i weithio mewn sefydliad a arweinir gan werthoedd sy'n ymrwymedig i lwyddiant dysgwyr ac effaith cymunedol

Os ydych chi'n frwdfrydig ynghylch Cyfrifiadura ac ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau digidol, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.