MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Annog a Mentora

Darlithydd Annog a Mentora

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Annog a Mentora
Lleoliad: Llaneurgain - Ysgol Fusnes
Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser (18.5 awr)
Graddfa Gyflog: £27,382 to £42,326 (Pro rata) pwyntiau uwch gyflog UP2 and UP3 yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r Uwch Raddfa Gyflog
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Annog a Mentora i gyflwyno ein cwrs Annog a Mentora o lefel 2 i lefel 5.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
Cymhwyster Lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster lefel 5 o leiaf mewn Annog a Mentora
Meddu ar ddyfarniad dilysu mewnol Lefel 4
Cymhwyster Addysgu neu hyfforddi (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w harfer
Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.