MANYLION
  • Lleoliad: Jubilee Court, Swansea, SA5 4HB
  • Testun: Darparwr Hyfforddiant
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £29,998 - £34,897
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Awst, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Digidol

Hyfforddwr Digidol

Coleg Gwyr Abertawe
Darparu hyfforddiant ac asesiadau o’r radd flaenaf i ddysgwyr o fewn y sector Dechnoleg Gwybodaeth e.e. Prentisiaethau TG, Meddalwedd, Gweithwyr Rhyngrwyd a Thelathrebu Proffesiynol (Cymru), Defnyddwyr TG yn ogystal ag agweddau o’r Diploma Datblygu Digidol a’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Bydd y rhaglenni’n cynnwys adennill costau’n llawn, Dysgu Seiliedig ar Waith, prosiectau a ariennir gan Ewrop a phrosiectau penodol sy’n ymwneud â’r diwydiant. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd feddu ar wybodaeth gyfredol o’r sector/diwydiant, a bod yn broffesiynol wrth weithio â gweithwyr a chyflogwyr er mwyn creu awyrgylch ddysgu bositif sy’n galluogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn.

JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster Lefel 4 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn marchnata TG digidol a thechnegol e.e. TG, Meddalweddau, y We a Thelathrebu. Bydd gennych hefyd ddyfarniad asesydd TAQA, neu fyddy hi’n dymunol eich fod yn barod i weithio i ennill un. Mae Lefel 2 (TGAU neu’r cyfwerth), gradd C neu uwch mewn llythrennedd a rhifed yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Gyda hanes o weithio mewn amgylchedd TG dechnegol bydd gennych wybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant gan gynnwys anghenion hyfforddi.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.